Skip to content

Coed y Felin - Amlwch

Dolenni perthnasol

Cewch weld datbylgiaeth y coetir ar y dudalen hon.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
Coed y Felin, Amlwch

Mae Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, Coed Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn a'r Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn cydweithio i greu 10 erw (4 hectar) o goetir brodorol ar dir cyfagos i'r ysgol.

Ynghylch Coed y Felin

Mae dros 10,000 o goed o darddiad hadau lleol wedi cael eu plannu. Rhywogaethau coed a fyddai wedi tyfu yn wreiddiol ar y safle, gan gynnwys derw digoes, cyll, bedw, ynn a cheirios gwyllt sydd ymhlith y 12 o rywogaethau o goed sydd wedi cael eu plannu. Fe blannodd yr ysgol dros hanner o'r coed mewn wythnos ym mis Rhagfyr 2011; ac mae bob plentyn o'r ysgol wedi plannu o leiaf un goeden. Mae ysgolion a grwpiau cymunedol eraill wedi cymryd rhan wrth helpu i greu'r coetir newydd hwn.

Fe enwid Coed y Felin yn dilyn cystadleuaeth a gynhaliwyd yn Ysgol Syr Thomas Jones. Bydd syniadau gan y plant ysgol hefyd yn cael eu hymgorffori yn y coetir wrth iddo ddatblygu. Nid oes yna lawer o goetir yng Ngogledd-ddwyrain Ynys Môn, felly bydd hyn yn dod yn le i'w groesawu ar gyfer hamdden yn ogystal â darparu lloches werthfawr a chynefin i fywyd gwyllt ac ardal ar gyfer addysg awyr agored.

Ar Fai 16, fe’u lanswyd Coed y Felin yn swyddogol fel coetir newydd i rieni a phobl lleol i’w ymweld. Mae dros 20 o ddisgyblion o Ysgol Syr Thomas Jones wedi ymuno a aelodau o staff Comisiwn Coedwigaeth Cymru a chyngorwyr Ynys Mon yn y coetir newydd ar ddiwrnod brydferth i ddathlu eu gwaith caled mewn helpu plannu’r goetir. Mae’r coetir yn sefyll uwchben yr ysgol uwchradd, yn edrych allan dros y pentir ger Amlwch.Ar y diwrnod, fe gymerwyd ddisgyblion ran mewn dau weithdy ymarferol gan wneud hoelion gyda gof, a gwaith coed gwyrdd. Hefyd fe’u blannwyd dipyn o goed fel rhan o’r dathliad.

I gael manylion pellach am y safle ewch i wefan Coed Cymru (dolen allanol - Saesneg yn unig).

Cyrraedd Coed Cymunedol Caia

Cymerwch y B5111 o'r gylchfan ar ben deheuol Amlwch tuag at Lannerchymedd. Cymerwch y troad cyntaf i'r dde tuag at y ganolfan hamdden a'r ysgol (Ffordd Tanybryn). Mae'r coetir tua 250 metr ar hyd ffordd gefn, y ffordd gyntaf ar y chwith gydag arwydd Pentrefelin, gan arwain at Ben Cae. Nid oes yna fannau parcio yn agos at y coetir, gall parcio fod ar gael yn y ganolfan hamdden gyferbyn â'r ysgol, troad cyntaf i'r dde, a'r maes parcio ar y chwith. Mae'r fynedfa i'r coetir yn ôl ar hyd y ffordd rydych wedi teithio arni ac yn syth ymlaen ar draws Ffordd Tanybryn ac ar hyd Pentrefelin. Nid oes llwybr troed ar hyd naill ffordd fach. Mae'r fynedfa â chlwyd i'r coetir ar yr ochr dde. Peidiwch â pharcio yn y fynedfa.

Mynediad

Mae Coed y Felin yn agored i bawb ar gyfer hamdden anffurfiol drwy gydol y flwyddyn, a hynny yn ddi-dâl. Mae'r tir yn codi'n raddol oddi wrth y fynedfa ac mae yna lwybr crwn o gwmpas y coetir.