Skip to content

Cymru y Gwir Flas

Dolenni perthnasol

Cyfeiriadur Bwyd a Diod gan Bobl Cymru yw rhestr Llywodraeth Cymru o gynhyrchwyr bwyd a diod.
Mae Gwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas yn gystadleuaeth flynyddol i ddod o hyd i’r cynnyrch gorau posibl o Gymru.
Mae'r arolygiad yn dangos fod ymwybyddiaeth o gynnyrch Cymraeg wedi codi 11% yn y 12 mis ddiwethaf.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
Logo Cymru y Gwir Flas

Mae brand Cymru y Gwir Flas yn chwarae rhan fawr yn y gwaith o helpu i godi ymwybyddiaeth am fwyd a diod o Gymru ymhlith prynwyr.

Brand Cymru y Gwir Flas

Mae bwyd a diod yn bwysig i Gymru. Y mae, nid yn unig yn rhan fawr o'n bywyd bob dydd, ond hefyd yn rhan hanfodol o'n diwylliant ac mae cynhyrchu bwyd drwy ddulliau amaethyddol wedi llunio’r rhan fwyaf o'n tirwedd. Erbyn heddiw, mae'r sector yn cyflogi nifer sylweddol o bobl, mae mwy na 55,000 o bobl yn gweithio yn y diwydiant.

Caiff brand Cymru y Gwir Flas ei reoli gan yr Is-Adran Datblygu Bwyd a'r Farchnad (FMDD) sy'n rhan o Lywodraeth Cymru a'i nod yw hyrwyddo'r gorau sydd gan y sector hwn i'w gynnig.

Mae creu brand bwyd Cymreig credadwy yn y sector manwerthu wedi'n galluogi ni i hyrwyddo ein cynnyrch nid yn unig yng Nghymru ond hefyd y tu hwnt i'n ffiniau ac yng ngweddill y DU a thramor. Mae gwaith ymchwil yn dangos bod logo Cymru y Gwir Flas yn cael ei adnabod fwyfwy gan ddefnyddwyr a bod proffil bwyd a diod o Gymru yn codi.

Caiff logo Gwir Flas Cymru ei arddangos gyda balchder gan gwmnïau sydd wedi ennill un o Wobrau Gwir Flas Cymru. Mae'r gwobrau bwyd a diod blynyddol yn cydnabod nwyddau gorau Cymru. Os ydych am wybod mwy, cliciwch ar y ddolen sydd ar ochr chwith y dudalen hon sy'n cynnwys gwybodaeth am y Gwobrau.

Ceir mwy gwybodaeth ar wefan Cymru y Gwir Flas.
Os hoffech gysylltu â ni, anfonwch e-bost at RA-MDU@Cymru.gsi.gov.uk.