Skip to content

Cefnogaeth ar gyfer Gwyliau Bwyd

Dolenni perthnasol

Rhestr o’r gwyliau bwyd gan gynnwys lleoliad a fanylion cysylltu.
Bydd mwy na 30 o wyliau bwyd a diod ym mhob rhan o Gymru yn derbyn dros £350,000 rhyngddynt
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
Cymru Y Gwir Flas - baneri

Ar y dudalen hon, gallwch weld pwy wyliau fwyd sy'n cael eu cefnogi ganddom, a sut gallwch geisio am gefnogaeth am eich digwyddiad bwyd a diod.

Rydyn ni’n cydnabod y cyfraniad pwysig gwyliau bwyd i gryfhau a datblygu ymhellach ddiwylliant bwyd bywiog Cymru.

Mae gwyliau bwyd yn dathlu popeth sy’n dda am fwyd a diod o Gymru. Fe’u cynhelir trwy gydol y flwyddyn ac ym mhob rhan o Gymru. Rydyn ni’n cydnabod cyfraniad pwysig gwyliau bwyd i gryfhau a datblygu ymhellach ddiwylliant bwyd bywiog Cymru. Dyna pam rydyn ni wedi darparu cefnogaeth ariannol ac ymarferol i fwy na 30 o wyliau bwyd yng Nghymru yn ystod 2011.

Mae rhai o’r digwyddiadau hyn o bwys cenedlaethol a rhyngwladol, er enghraifft Gŵyl Fwyd y Fenni, Gwledd Conwy Feast, Gŵyl Fwyd a Diod Ryngwladol Caerdydd, a Gŵyl Gaws Fawr Prydain. Mae ein gweithgareddau eraill yn hyrwyddo bwydydd rhanbarthau penodol neu’n canolbwyntio ar faterion lleol, fel yr Ŵyl Fwyd Gwirioneddol Wyllt yn Nhyddewi, a Gŵyl Bwyd Môr Bae Ceredigion, a gynhelir yn Aberaeron.

Mae’r holl ddigwyddiadau hyn yn llawn haeddu ymweliad:

  • Carmarthen Journal Buy Local Food & Drink Show
  • Cegaid o Fwyd Cymru
  • Feastival (Pen-y-bont ar Ogwr)
  • Ffair Fwyd Llandysul
  • Ffair Gŵyl Ddewi Saundersfoot
  • Ffair Haf Bannau Brycheiniog
  • Get Welsh in Swansea Food and Drink Show
  • Gwledd Conwy Feast
  • Gŵyl Afon a Bwyd Aberteifi
  • Gŵyl Bwyd Môr Bae Ceredigion
  • Gŵyl Caerdydd
  • Gŵyl Fwyd a Diod Aberystwyth
  • Gŵyl Fwyd a Diod Y Bont-faen
  • Gŵyl Fwyd Arberth
  • Gŵyl Fwyd Bannau Brycheiniog
  • Gŵyl Fwyd Blas Tywi
  • Gŵyl Fwyd Casnewydd
  • Gŵyl Fwyd Castell Nedd
  • Gŵyl Fwyd Castell Newydd Emlyn
  • Gŵyl Fwyd Cymru
  • Gŵyl Fwyd Gorseinon
  • Gŵyl Fwyd Llanbedr Pont Steffan
  • Gŵyl Fwyd Tir a Môr Llŷn
  • Gŵyl Fwyd Y Fenni
  • Gŵyl Fwyd Y Gelli Gandryll
  • Gŵyl Fwyd Yr Wyddgrug
  • Gŵyl Gaws Fawr Prydain
  • Gŵyl Llymarch a Chynnyrch Bwyd Cymreig Ynys Môn
  • Gŵyl Perai a Seidr Cymru (Y Fenni)
  • Gŵyl Really Wild
  • Gŵyl Seidr, Perai a Chynnyrch Lleol Hwlffordd

Trefnwyr Digwyddiadau Bwyd a Diod  

Os ydych chi’n ystyried trefnu gŵyl fwyd a bod gennych ddiddordeb mewn ceisio am gymorth, dylech gysylltu â ni ar RA-MDU@wales.gsi.gov.uk. Fel rheol, mae’r broses yn dechrau ym mis Tachwedd pan fyddwn yn gwahodd trefnwyr gwyliau bwyd i gyflwyno ceisiadau am gymorth. Gellir dyfarnu grantiau (os oes cyllid ar gael) i ddigwyddiadau bwyd a diod sy’n bodloni’r Meini Prawf Ariannu Gwyliau Bwyd. Fel arfer bydd yr ymgeiswyr yn gwybod faint o gymorth a gynigir erbyn dechrau’r flwyddyn ariannol.