Skip to content

Diwydiant Cig Coch

Dolenni perthnasol

Diwydiant cig coch yng Nghymru sy'n broffidiol, yn effeithlon, yn gynaliadwy ac y arloesol
Adroddiad Monitro Blynyddol ar y Cynllun Gweithredu Strategol Diwydiant Cig Coch Cymru 2009-2010.
Yr ail adroddiad monitro blynyddol ar y Cynllun Gweithredu Strategol Diwydiant Cig Coch Cymru.
Adroddiad Monitro Blynyddol 2010-2011 yw trydydd gyhoeddiad yr Is-bwyllgor Monitro ac mae’n ymdrin â’r cyfnod 01 Ebrill 2011 tan 31 Mawrth 2012.
Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales yw’r sefydliad sy’n cael ei arwain gan y diwydiant ac sy’n gyfrifol am ddatblygu, hybu a marchnata cig coch o Gymru.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
Enillydd Gwir Flas Vaughans Family Butchers

Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw gweld diwydiant cig coch arloesol, cynaliadwy, effeithlon ac sy’n gwneud elw yng Nghymru.

Ei nod yw galluogi’r diwydiant i ymateb yn effeithiol ac yn gystadleuol i bwysau cynyddol y marchnadoedd lleol a byd-eang.

Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Diwydiant Cig Coch Cymru

Lansiwyd y Cynllun Gweithredu ym mis Ebrill 2009 ac mae’n rhoi cyfeiriad i ddiwydiant Cig Coch Cymru drwy nodi amcanion, camau gweithredu a chanlyniadau strategol .
I ddarllen y ddogfen, cliciwch ar y ddolen yn y ddewislen ar ochr dde’r dudalen.

Monitro’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Diwydiant Cig Coch Cymru

Cyhoeddir adroddiadau monitro yn flynyddol. Cliciwch ar y ddolen yn y ddewislen ar y dde i ddarllen y dogfennau hyn.

Prosiectau Cynllun Effeithlonrwydd y Gadwyn Gyflenwi ar gyfer y Sector Cig Coch

Roedd Hybu Cig Cymru wedi llwyddo i sicrhau cymorth ariannol ar gyfer tri phrosiect cig coch o dan Gynllun Datblygu Gwledig 2007- 2013. Mae hyn wedi arwain at hwb o £4.5 miliwn i’r diwydiant cig coch yng Nghymru.   

Map Ffyrdd Cig Coch Cymru

Cyhoeddwyd ‘A sustainable future – the Welsh Red Meat Road Map’, gan gynnwys cynllun gweithredu’r Diwydiant, gan Hybu Cig Cymru ym mis Gorffennaf 2011.  Roedd hyn yn cynnwys cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant.  Mae’r Map Ffyrdd yn cynnig gwybodaeth i randdeiliaid ar faterion amgylcheddol, lleihau carbon a chynyddu effeithlonrwydd a phroffidioldeb.

Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales (HCC)

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Hybu Cig Cymru (dolen allanol).

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy’r e-bost: foodpolicy@wales.gsi.gov.uk, neu dwy’r post:

Yr Uned Strategaeth a Pholisi Bwyd
Yr Is-adran Datblygu Bwyd, Pysgodfeydd a’r Farchnad
Llywodraeth Cymru
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UR