Skip to content

Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru 2010:2020 - Strategaeth Fwyd i Gymru

Dolenni perthnasol

Mae Bwyd o Gymru, Bwyd i Gymru yn cynnig gweledigaeth eang o le bwyd yng Nghymru.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
Pate Cymreig, gyda salad a mwstard
Mae Bwyd o Gymru, Bwyd i Gymru yn cynnig gweledigaeth eang o le bwyd yng Nghymru, gan roi cyfeiriad clir i’r diwydiant bwyd yng Nghymru allu tyfu mewn ffordd gynaliadwy a phroffidiol dros y deng mlynedd nesaf.

Mae’r Strategaeth yn seiliedig ar egwyddorion datblygu cynaliadwy, sy’n cynnwys agweddau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ar gynhyrchu a defnyddio bwyd.  Ni all y Llywodraeth wneud hyn ar ei phen ei hun, ac mae gan y diwydiant a rhanddeiliaid eraill eu rhan i’w chwarae.

Mae’r Strategaeth yn ystyried pynciau trawsffiniol fel iechyd, diwylliant bwyd ac addysg, diogelu’r cyflenwad bwyd, cynaliadwyedd amgylcheddol a datblygu cymunedol. Mae hyn yn rhoi sail integredig i bolisi bwyd yng Nghymru.

Ei fwriad yw gwneud y canlynol:

  • magu system fwyd wytnach;
  • cryfhau’r economi fwyd yng Nghymru; a
  • meithrin galluoedd a chapasiti busnesau bwyd i gystadlu’n effeithiol yng Nghymru a thu hwnt.

Cynllun i roi’r Strategaeth ar waith

Mae Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru yn edrych i’r 10 mlynedd nesaf.  Mae’n adlewyrchu sylwadau ystod eang o randdeiliaid, y tu mewn a’r tu allan i’r Llywodraeth. Mae Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â’r diwydiant, yn ystyried y ffordd orau o fynd ati i gyflawni amcanion allweddol yn y cyfarwyddyd y cytunwyd arno.