Skip to content

Cynllun Gweithredu Strategol Diwydiant Cig Coch Cymru

Dolenni perthnasol

Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales yw’r sefydliad sy’n cael ei arwain gan y diwydiant ac sy’n gyfrifol am ddatblygu, hybu a marchnata cig coch o Gymru.
Adroddiad Monitro Blynyddol ar y Cynllun Gweithredu Strategol Diwydiant Cig Coch Cymru 2009-2010.
Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw gweld diwydiant cig coch arloesol, cynaliadwy, effeithlon ac sy’n gwneud elw yng Nghymru.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Ar 28 Ebrill, lansiodd Elin Jones y Gynllun Gweithredu Strategol Diwydiant Cig Coch Cymru, yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd.

Datblygwyd y Cynllun Gweithredu gan Hybu Cig Cymru (HCC). Roedd hyn drwy ymgynghori’n agos â chadwyn gyflenwi cig coch Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’n rhoi cyfeiriad strategol i ddiwydiant cig coch Cymru drwy bennu amcanion, camau gweithredu a chanlyniadau strategol. Bydd rhain yn mynd i’r afael â’r heriau a manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael i’r diwydiant.

Mae sector cig coch Cymru (defaid, gwartheg a moch) yn ddiwydiant cynhyrchu sylfaenol pwysig o safbwynt yr economi wledig ac o ran rheoli’r dirwedd yn gynaliadwy. Mae cynhyrchu cig coch Cymru yn cyfrif am 43 y cant o holl werth blynyddol cynnyrch amaethyddol Cymru, gwerth £361 miliwn (yn 2006).  

Nodir y weledigaeth ganlynol ar gyfer y diwydiant yn y Cynllun Gweithredu:

Diwydiant cig coch yng Nghymru sy’n broffidiol, yn effeithlon, yn gynaliadwy ac yn arloesol ac sy’n ymateb yn gystadleuol i dueddiadau mewn marchnad sy’n newid yn barhaus ac yn dod â budd i bobl Cymru.

Mae’r nodau strategol canlynol wedi’u pennu:

  • Gwella dealltwriaeth y diwydiant o dueddiadau yn y farchnad a dylanwad ar ymddygiad cwsmeriaid; 
  • Meithrin arloesedd a gwella cysylltiadau’r gadwyn gyflenwi; 
  • Gwella perfformiad busnes proseswyr mewn ymateb i amgylchiadau newidiol y farchnad, gofynion amgylcheddol, y newid yn yr hinsawdd a gofynion cwsmeriaid; 
  • Gwella perfformiad busnes cynhyrchwyr sylfaenol mewn ymateb i amgylchiadau newidiol y farchnad, gofynion amgylcheddol, y newid yn yr hinsawdd a gofynion cwsmeriaid.

Er mwyn cyflawni’r nodau a chymryd y camau gweithredu, mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru, HCC a diwydiant cig coch Cymru yn cydweithio’n agos. Bydd angen i’r holl randdeiliaid ar draws y gadwyn gyflenwi gymryd rhan.  

Disgwylir i’r gwaith o gyflwyno’r Cynllun Gweithredu hwn gael ei ariannu’n bennaf gan Ardoll Cig Coch Cymru a chyllid y Cynllun Datblygu Gwledig.

Ar 10 Awst 2010, cyhoeddwyd yr adroddiad monitro blynyddol cyntaf ar y Cynllun Gweithredu gan Elin Jones AC, y Gweinidog dros Faterion Gwledig.