Skip to content

Sector Bwyd Organig Cymreig - Cynllun Gweithredu Strategol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
bwydlysiau organig
Ym 1998, roedd 30 gwaith yn fwy o gynnyrch fferm organig yn cael ei gynhyrchu yng Ngorllewin Ewrop ag ydoedd ym 1985. Yng Nghymru, credir bod y sector organig yn tyfu hyd yn oed yn gyflymach na hynny.

Y genhadaeth yw:

  • sefydlu swyddogaeth allweddol amaethyddiaeth organig ym mholisïau amaethyddol ac amgylcheddol Cymru;
  • ehangu sector organig Cymru drwy gynyddu gallu cynhyrchu busnesau sydd eisoes yn bodoli a busnesau newydd i 10% o sector cynnyrch amaethyddol Cymru erbyn 2005;
  • manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd cynyddol yn y farchnad o fewn Cymru, y DU ac mewn mannau eraill.