Skip to content

Bwyd a physgodfeydd

Dolenni perthnasol

Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cymorth un-i-un, cyngor, arweiniad a hyfforddiant i fusnesau ffermio a choedwigaeth yng Nghymru.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
Cimwch - Bwyty Quayside
Ein nod yw rhoi mantais gystadleuol i’n busnesau bwyd a diod trwy gyfres o raglenni cymorth.

Erbyn hyn, mae enw da Cymru fel gwlad sy’n cynhyrchu, manwerthu ac yn gweini bwyd a diod arloesol o’r ansawdd gorau wedi’i hen sefydlu yma a thramor.

Mae daearyddiaeth, hinsawdd ac arferion ffermio Cymru oll yn chwarae eu rhan. Ond i raddau helaeth mae’r twf yn ystod ac ansawdd cynnyrch o Gymru yn seiliedig ar fuddsoddiad Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf. Mae hwn yn helpu cynhyrchwyr i ddatblygu a marchnata bwyd a diod o’r ansawdd gorau.

Mae’n ddiwydiant deinamig, sydd eisoes yn cyfrannu hyd at 7 y cant (£79.4 biliwn) o Werth Ychwanegol Crynswth y Deyrnas Unedig. Mae dros 55,000 o bobl yn gweithio yn y sector i gynhyrchu rhai o’r bwydydd a’r diodydd gorau sydd gan y byd i’w cynnig.

Mae ein gweithgareddau allweddol yn cynnwys:

  • darparu cefnogaeth i fusnesau a chymorth grant i gwmnïau o Gymru yn y sector
  • gwella cadwyni cyflenwi yn sector bwyd Cymru
  • annog y sector cyhoeddus i gaffael bwyd a diod o Gymru
  • cefnogi gwyliau bwyd yng Nghymru.

I gael mwy o wybodaeth am ein polisïau a’n gweithgareddau, mae croeso ichi bori’r tudalennau yn yr adran hon.