Skip to content

Rhaglen Datblygu Sgiliau

Dolenni perthnasol

Mae Rhaglen Datblygu Sgiliau Cyswllt Ffermio eisoes yn gwneud gwahaniaeth mawr i fusnesau fferm a choedwigaeth ledled Cymru.
Mae'r esiamplau sy'n dilyn yn dangos sut mae chwe teule amaethyddol wedi datblygu eu sgiliau i wella'u busnesau.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.

Mae Rhaglen Datblygu Sgiliau Cyswllt Ffermio yn cynnal cyrsiau ymarferol a chyrsiau ar ddeddfwriaeth ledled Cymru.

Mae yna ddewis eang ohonynt, gan gynnwys:

  • Cneifio defaid
  • Tocio carnau 
  • Defnyddio llif gadwyn
  • Paratoi bwyd a hylendid
  • Tynnu trelars
  • Defnyddio plaladdwyr yn ddiogel
  • Iechyd a Diogelwch
  • Defnyddio meddyginiaethau milfeddygol yn ddiogel
  • Adeiladu waliau sychion
  • Rheoli tractor telesgopig
  • Hyfforddiant ATV/beic cwad

Buddsoddwch mewn hyfforddiant – a dysgu sgiliau newydd neu wella’r sgiliau sydd gennych eisoes

Gall busnesau ffermio a choedwigo cymwys hawlio 80% o gost hyfforddiant galwedigaethol a statudol neu hyfforddiant sy'n gysylltiedig â rheoliadau.  

Dim ond cyrsiau achrededig neu rai sydd wedi’u cymeradwyo gan gorff dyfarnu fydd yn cael eu hariannu gan Gyswllt Ffermio, er mwyn sicrhau bod yr hyfforddiant yn gyson ac o ansawdd uchel.

Er mwyn cael defnyddio'r Rhaglen Datblygu Sgiliau, mae'n hanfodol bod eich busnesau ffermio neu goedwigo yn cofrestru gyda Chyswllt Ffermio, a hynny cyn archebu lle ar unrhyw gyrsiau.

Mae'r rhaglen hon ar gael i chi, aelodau eich teulu agos a gweithwyr cyflogedig sy'n 'Talu wrth Ennill'.

Os ydych yn rhedeg busnes da byw/cnydau amaethyddol neu goedwigaeth mae'n bwysig bod gennych chi a'ch gweithwyr y sgiliau priodol.

Mae ein rhwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant a cholegau ledled Cymru yn cynnal amrywiaeth o gyrsiau ymarferol achrededig, gyda chymhorthdal.

Os hoffech drafod yr opsiynau ar gyfer cyrsiau neu weld rhestr o'r darparwyr hyfforddiant cymeradwy, cysylltwch a'ch Cydgysylltydd Rhanbarthol Cyswllt Ffermio i gael mwy o wybodaeth:

Canolbarth a De-ddwyrain Cymru

Gwenan Ellis:
Rhif ffôn: 07866 547894 
Ebost: gwenan.ellis@menterabusnes.co.uk

Ardal Ddaearyddol: Montgomeryshire

Deian Thomas:
Rhif ffôn: 07772 694952 
Ebost: deian.thomas@menterabusnes.co.uk

Ardal Ddaearyddol: South East and Valleys

Chris Davies:
Rhif ffôn: 07917 895255
Ebost: chris.davies@lantra.co.uk

Ardal Ddaearyddol: Brecknock and Radborshire

Gogledd Cymru

Elliw Evans:
Rhif ffôn: 07772 694116 
Ebost: elliw.evans@menterabusnes.co.uk

Ardal Ddaearyddol: Pen Llyn - Gwynedd

Guto Owen:
Rhif ffôn: 01248 672672 
Ebost: guto.owen@menterabusnes.co.uk

Ardal Ddaearyddol: Llys Mon, Eryri & Meirionnydd 

Lowri Williams:
Rhif ffôn: 07772 694098  
Ebost: lowri.williams@menterabusnes.co.uk

Ardal Ddaearyddol: Wrexham & Flint

Eryl Roberts:
Rhif ffôn: 07917 895253
Ebost: eryl.roberts@lantra.co.uk

Ardal Ddaearyddol: Denbighshire and Conwy

De-orllewin Cymru

Rhodri Jones:
Rhif ffôn: 01970 636286 
Ebost:  sara.downes@menterabusnes.co.uk

Ardal Ddaearyddol: North Ceredigion

Gareth Griffiths:
Rhif ffôn: 07772 694112 
Ebost: gareth.griffiths@menterabusnes.co.uk

Ardal Ddaearyddol: Carmarthenshire

Sarah Lewis:
Rhif ffôn: 07827 956765
Ebost: sarah.lewis@lantra.co.uk

Ardal Ddaearyddol: South Pembrokshire

Dylan Sandbrook:
Rhif ffôn: 07772 694958 
Ebost: dylan.sandbrook@menterabusnes.co.uk

Ardal Ddaearyddol: North Pembrokeshire/South Ceredigion

Pwy sy’n gymwys

Cewch gymryd rhan yn y Rhaglen Datblygu Sgiliau os oes gennych:

  • rif Daliad;
  • rhif Cyfeirnod Cwsmer;
  • a'ch bod yn gweithio mwy na 550 o oriau bob blwyddyn.
  • Rhaid i fusnesau coedwigo allu darparu rhif Coetiroedd Gwell i Gymru dilys.

Mae pob busnes cymwys yn cael gwneud cais am gymhorthdal o 80% tuag at gost cyrsiau sy'n cynnig sgiliau ymarferol neu hyfforddiant sy'n gysylltiedig â rheoliadau.