Skip to content

Gwasanaethau am ddim

Dolenni perthnasol

Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd
I gael y gwasanaethau hyn, rhaid i fusnesau ffermio a choedwigo fodloni'r meini prawf sydd yn y tabl yma.
Gallwch drafod materion cynllunio sy’n benodol i’ch busnes a derbyn cyfarwyddyd ynghylch y camau gorau i’w cymryd nesaf.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.

Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig y gwasanaethu dilynnol a fuddsoddwyd yn llawn i'r oll ffermwyr sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio.

Digwyddiadau deall strategaeth

I’ch diweddaru am y pynciau amserol sy’n hollbwysig i fusnesau ffermio a choedwigo.

  • Seminarau arallgyfeirio
    I’ch annog i ystyried ffynonellau incwm eraill
     
  • Hyfforddiant rheoli cynefinoedd
    Yn ogystal â gwella’r amgylchedd, mae dilyn arferion amgylcheddol da yn gallu arwain at gostau cynhyrchu is.

Cymorthfeydd Cynllunio

I’ch helpu i ddelio â materion cynllunio ar y fferm a deall y prosesau perthnasol.

Agrisgôp

Mae’r rhaglen dysgu gweithredol hon yn dod â theuluoedd ffermio ynghyd i drafod a datblygu syniadau busnes.

Mae’r gwasanaethau uchod ar gael i holl ffermwyr, tirfeddianwyr a busnesau coedwigo yng Nghymru

Mae holl wasanaethau eraill Cyswllt Ffermio yn cael eu hariannu’n rhannol, cyn belled â’ch bod yn bodloni’r y meini prawf isod ac yn y tabl i'r dde o'r sgrin.