Skip to content

Cynhadledd Rhwydwaith Gwledig Cymru 2010, Llandrindod

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Gwesty Metrople, Llandrindod
Cynhaliwyd y digwyddiad hwn yn Llandrindod ar 14 Hydref 2010. Daeth tua 90 o gynrychiolwyr i Westy'r Metropole ar gyfer cynhadledd a drefnwyd gan Rwydwaith Gwledig Cymru.

Ymhlith y siaradwyr yr oedd Tracey McNally o Rwydwaith Gwledig Gogledd Iwerddon, Pete Banford (Bryniau Swydd Amwythig) a David Boyce (Gogledd Gororau Cymru).). Cynhaliwyd gweithdai ar bedair thema yn ystod y bore a'r prynhawn – ynni adnewyddadwy, twristiaeth gynaliadwy, cynhyrchion lleol, a rheoli'r amgylchedd a'r tir.

Roedd pob un o'r pedwar gweithdy yn hynod addysgiadol. Mae'r digwyddiadau hyn yn gyfle i bawb gyfnewid syniadau a gwybodaeth. Mae'r Rhwydwaith wedi paratoi cyfres o nodiadau sy'n rhoi manylion am bob un o'r siaradwyr ac sy'n amlinellu'r hyn yr oedd ganddynt i'w ddweud. Os hoffech gael copi ohonynt, anfonwch e-bost at ruralnetwork@wales.gsi.gov.uk

Cynhaliwyd gweithdy hefyd ar gyfer unrhyw un a oedd â diddordeb mewn dod yn aelod o'r Panel Apelau Annibynnol. Mae'r panel hwn yn adolygu apelau sy'n cael eu cyflwyno o dan y broses talu grantiau a chymorthdaliadau ar gyfer ffermio a choedwigaeth yng Nghymru.

Dylai unrhyw un sydd am fynegi diddordeb mewn dod yn aelod o'r Panel gysylltu â Sue Cox, Ysgrifenyddiaeth y Broses Apelio ar 01597 828226.