Skip to content

Planhigion, hadau a biotechnoleg

Dolenni perthnasol

Cais am gydsyniad gan Bavarian Nordic Immuno Therapeutics Inc. am dreial clinigol o frechlyn a addaswyd yn enetig yn erbyn canser y prostad.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
eginblanhigyn mewn llaw
Rhaid i bob rhywogaeth amaethyddol a rhywogaeth o lysiau sy'n cael eu tyfu yn y Deyrnas Unedig gael eu cofnodi ar Restr Genedlaethol o Amrywogaethau. Rhaid i bob hedyn a phlanhigyn gael ei ardystio ar y rhestr hon cyn y gellir eu gwerthu.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio'n agos ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) i weinyddu'r drefn hon yng Nghymru.

Mae llawer o blâu ac afiechydon a allai achosi niwed mawr i'n cnydau a'n planhigion. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am sicrhau nad ydyn nhw'n cydio yng Nghymru.

  • Mae rheolau swyddogol ar fewnforio, symud a chadw rhai mathau o blanhigion, plâu planhigion a deunydd arall;
  • Mae gennym bolisïau a rheoliadau i atal plâu ac afiechydon difrifol ar blanhigion, a allai beryglu amaethyddiaeth a'n hamgylchedd, rhag cael eu cyflwyno a lledu;
  • Mae gennym bolisïau a rheoliadau i sicrhau nad yw problemau iechyd planhigion yn effeithio ar werthiant cynnyrch amaethyddol.

Mae'r Arolygiaeth Hadau ac Iechyd Planhigion (PHSI) yn gweithredu yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru. Nhw sy'n sicrhau bod rheoliadau Cymru ar hadau ac iechyd planhigon yn cael eu gorfodi.