Skip to content

Grŵp Defnydd Tir a Newid Hinsawdd




Cyflwynir yr adroddiad mewn dwy ran – y gyntaf, sy’n cynnwys y Cyflwyniad a’r Crynodeb Gweithredol, Argymhellion, ac Ymgysylltu, sy’n hollol ddwyieithog. Mae’r ail ran, sy’n crynhoi y dystiolaeth gwyddonol ac yn cynnwys dadansoddiad eang o’r opsiynnau a senarios, yn uniaith.

Sefydlwyd y Grŵp Defnydd Tir a Newid Hinsawdd fis Ionawr 2009 gan y Gweinidog dros Faterion Gwledig. Mae'n Grŵp annibynnol sy'n cael ei gadeirio gan yr Athro Gareth Wyn Jones, gynt o Brifysgol Bangor, ac sy’n cynnwys cynrychiolwyr o'r sector ffermio, y sector coedwigaeth a sector yr amgylchedd. Gofynnwyd i'r Grŵp ystyried sut y gall amaethyddiaeth a defnydd tir gwledig leihau newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo. Hefyd, gofynnwyd iddo edrych ar y cyfleoedd a all godi ar gyfer datblygu busnesau ffermio a choedwigaeth.

Mae'r Grŵp bellach wedi cyflwyno ei gasgliadau i'r Gweinidog. Mae'r adroddiad yn cymeradwyo set o weithgareddau a fydd yn galluogi Cymru i gynnal ei photensial o ran cynhyrchu bwyd, ond ar yr un pryd yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Mae’r adroddiad yn awgrymu’r elfennau allweddol canlynol ar gyfer lleihau allyriadau:

  • cyflwyno treuliad anaerobig i leihau allyriadau methan
  • gwella cynhyrchiant ffermydd, gan gynnwys gwneud defnydd mwy effeithlon o dail, gwrteithiau ac ynni
  • ehangu coetiroedd
  • datblygu ffynonellau ynni adnewyddadwy.

Mae pwyslais yr adroddiad ar gynnal y sectorau cynhyrchu dwys - llaeth, defaid a biff - ond hefyd ar arallgyfeirio a chynyddu cnydau llysiau. Yn y tymor hirach, mae’r adroddiad yn cymeradwyo datblygu dull mwy radical lle mae’r rhan helaeth o’r fuches wartheg o dan do, ond gydag allyriadau methan yn cael eu casglu. Erbyn 2040, gallai’r sector amaeth a’r sector defnydd tir symud ymlaen yn sylweddol tuag at fod yn garbon-niwtral.

Defnydd tir a newid yn yr hinsawdd adroddiad

14/02/11
Sefydlwyd y Grŵp Defnydd Tir a Newid Hinsawdd ym mis Mawrth 2009 er mwyn dod o hyd i ffyrdd o wneud toriadau net sylweddol mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr.
 

Yr opsiynau ar gyfer Lleihau'r Nwyon Tŷ Gwydr a Gynhyrchir ar Ffermydd yng Nghymru

26/11/09
Mae’r prosiect wedi ymchwilio i sut y byddai cymryd camau’n effaithio ar y sector amaethyddol yng Nghymru ac ar y prif fathau o unedau fferm. Nid yw wedi ymchwilio i ffyrdd o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n digwydd yn y gadwyn fwyd oddi ar y fferm.