Skip to content

Mwy nag un ffermwr yn defnyddio'r un tir




Yn rhifynnau mis Tachwedd/Rhagfyr2009 o Gwlad, rhoddwyd gwybodaeth bwysig i ffermwyr, gan nodi mai dim ond un fydd yn cael hawlio ar un parsel o dir ar unrhyw un adeg. Yma rydym yn ymdrin ag ambell sefyllfa gyffredin, gan wneud hynny ar ffurf Cwestiwn ac Ateb.

Dim ond un fydd yn cael hawlio ar un parsel o dir ar unrhyw un adeg.

Felly, wrth ymuno ag unrhyw gynllun amaeth-amgylcheddol newydd (y Cynllun Troi at Ffermio Organig, a fydd yn cael ei gyflwyno o 2010 ymlaen neu Glastir, a fydd yn cael ei gyflwyno o 2012 ymlaen), dim ond un ffermwr a fydd yn gallu dangos bod ganddo reolaeth lwyr dros y tir fydd yn cael hawlio ar y parsel hwnnw o dir ar unrhyw un adeg.

Yn achos ffermwyr sy’n aelodau o gynlluniau amaeth-amgylcheddol ar hyn o bryd ac sydd ddim am ymuno â chynllun amaeth-amgylcheddol newydd, byddwn yn cyflwyno trefniadau a fydd yn caniatáu iddynt ddod â’r drefn bresennol, lle caniateir i fwy nag un ffermwr ddefnyddio’r un darn o dir, i ben yn raddol.

Felly, os yw ffermwyr yn aelodau o gynlluniau ar hyn o bryd ond ddim am ymuno â chynllun amaeth-amgylcheddol newydd tan ddiwedd 2013, bydd y trefniadau hyn yn  caniatáu iddynt sicrhau bod eu harferion busnes yn cydymffurfio â rheolau’r CE.

Os bydd y CE yn gwneud unrhyw ddyfarniadau pellach, mae’n bosibl y bydd angen i Daliadau Gwledig Cymru fynd ati’n gynt i gyflwyno’r trefniadau ar gyfer dod â’r drefn bresennol i ben yn raddol.

Dylai ffermwyr ddechrau gwneud eu trefniadau eu hunain i sicrhau bod eu harferion busnes yn cydymffurfio â’r rheol hon ac â rheolau eraill y CE.

Cliciwch ar y ddolen isod i ddarllen y holiadur, os gwelwch yn dda.

Mwy nag un ffermwr yn defnyddio'r un tir - Holiadur

15/01/10
Rydym yn ymdrin yma ag ambell sefyllfa gyffredin, gan wneud hynny ar ffurf Cwestiwn ac Ateb.