Skip to content

Trawsgydymffurfio

Dolenni perthnasol

Trawsgydymurffio, yng nghyd-destun y Polisi Amaethyddol Cyffredin yw'r drefn sy'n gosod y safonau amgylcheddol a'r safonau eraill y mae'n rhaid i ffermwyr eu bodioni.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
gwartheg mewn cae

Dyma'r safonau y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi'u gosod y bydd yn rhaid i ffermwyr eu bodloni i gael y Taliad Sengl (SFP).

 Mae dwy elfen yn perthyn i Drawsgydymffurfio

Y ddwy elfen yw:

  • Gofynion Rheoli Statudol (SMRs) - Mae'r rhain, gan amlaf, yn rhwymedigaethau Ewropeaidd sy'n bodoli'n barod ac yn ymdrin â'r amgylchedd, iechyd y cyhoedd, iechyd planhigion, iechyd anifeiliaid a safonau lles
     
  • Safonau ar gyfer cadw tir mewn "Cyflwr Amaethyddol ac Amgylcheddol Da" (GAEC)

Gallai methu bodloni unrhyw un o’r safonau Trawsgydmffurfio arwain at gosb ariannol ar eich Taliad Sengl a chynlluniau Datblygu Gwledig yn ol ardal o 1Ionawr 2007 ymlaen.

Mae’r matrics lleihau taliad ar gyfer cyfrifo’r gosb ariannol wedi cael ei ddiweddrau yn dilyn archwiliad yr UE o Taliadau Gwledig Cymru. Barn Archwilwyr yr UE oeddd bod gostyngiadau’r blynyddoedd blaenorol yn rhy ysgafn. Felly, yn gyffredinol, tri y cant fydd gostyngiad 2009 ym mwyafrif yr achosion o dorri rheolau Trawsgydymffurfio.