Skip to content

Trefniadau mabwysiadu newydd ar gyfer carthffosydd a draeniau ochrol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rydym ni wedi cyflwyno deddfwriaeth sy’n effeithio ar y gwaith o adeiladu carthffosydd a draeniau ochrol newydd sy’n cysylltu â’r system garthffosiaeth gyhoeddus.

Trosglwyddwyd cyfrifoldeb dros garthffosydd a draeniau ochrol preifat i’r ymgymerwyr carthffosiaeth (cwmnïau dŵr) ar 1 Hydref 2011. Yn dilyn hyn, oedd proses newydd wedi ei chyflwyno ar 1 Hydref 2012 ar gyfer pob cysylltiad newydd â’r system garthffosiaeth gyhoeddus. I atal creu unrhyw garthffosydd a draeniau ochrol preifat newydd yn y dyfodol, rhaid i bob carthffos a draen ochrol newydd sy’n cysylltu â’r system garthffosiaeth gyhoeddus gael ei gytuno gyda’r ymgymerwr carthffosiaeth. Bydd y cytundeb yn cynnwys amodau penodol ar safonau adeiladu a mabwysiadu gorfodol gan yr ymgymerwr.

Rhaid i’r safonau adeiladu yn y cytundeb gynnwys safonau a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru. Gall fod yn wahanol i’r safonau hynny o dderbyn cydgytundeb.

Rydym wedi cyhoeddi:

  • Safonau Gweinidogion Cymru ar gyfer carthffosydd budr disgyrchiant a draeniau ochrol;
  • Canllawiau ar weithredu’r broses newydd hon.

Beth am garthffosydd a draeniau ochrol preifat wedi’u cysylltu ar ôl 1 Gorffennaf 2011?

Wnaeth y broses newydd hon wedi sbarduno trosglwyddiad arall o garthffosydd a draeniau ochrol preifat wedi’u cysylltu â’r system gyhoeddus rhwng 1 Gorffennaf a 1 Hydref 2011. Bydd hyn yn digwydd ar 1 Ebrill 2013.