Skip to content

Ansawdd dŵr yfed yng Nghymru

Dŵr yfed
Cafodd y Gyfarwyddeb Ewropeaidd bresennol (98/83/EC) ar Ansawdd y Dr y Bwriedir i Bobl ei Yfed (y "Gyfarwyddeb Dr Yfed") ei mabwysiadu ym 1998. Rhaid i bob Aelod-Wladwriaeth, gan gynnwys Cymru, gydymffurfio â'r Gyfarwyddeb.

Mae modd gweld copi o'r Gyfarwyddeb ar wefan Swyddfa Cyhoeddiadau'r Undeb Ewropeaidd.

Ewch i’r Gyfarwyddeb ar Ddŵr Yfed (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Cyflenwadau Dŵr Cyhoeddus

Yn 2010, gwnaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru reoliadau gan ddefnyddio'r pwerau yn Neddf Diwydiant Dŵr 1991 i gymhwyso safonau'r Gyfarwyddeb Ewropeaidd i gyflenwadau dŵr yfed a wneir gan gwmnïau dŵr y mae eu hardaloedd cyflenwi yn gyfan gwbl neu'n rhannol yng Nghymru. Roedd y rheoliadau hyn yn disodli rheoliadau tebyg sy’n dyddio'n ôl i 2001.

Mae modd gweld rheoliadau'r Cynulliad ar wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus.

Ewch i’r Rheoliadau ar Gyflenwad Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2010 (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Yr Arolygiaeth Dŵr Yfed sy'n cynnal archwiliadau o gwmnïau dŵr yng Nghymru, ac yn cymryd camau gorfodi i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â Deddf Diwydiant Dŵr 1991 a Rheoliadau 2010, gan gynnwys ymchwilio i gwynion gan gwsmeriaid ac i ddigwyddiadau sy'n effeithio ar gyflenwadau dŵr yfed a hynny ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Dengys adroddiad diweddaraf yr Arolygiaeth fod y cwmnïau dŵr wedi sicrhau 99.95% o lwyddiant o ran cydymffurfio â safonau dŵr yfed yng Nghymru yn 2011. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr Arolygiaeth Dŵr Yfed a gallwch weld adroddiad diweddaraf yr Arolygiaeth ar wefan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed.

Ewch i Arolygiaeth Dŵr Yfed (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Cyflenwadau Dŵr Preifat

Cyflenwadau sy'n deillio o ffynhonnau, pistylloedd ac ati yw'r rhain. Yr awdurdodau lleol (hy Cynghorau Sir yng Nghymru) sy'n gyfrifol am fonitro a gorfodi'r safonau a bennir yn Rheoliadau Cyflenwadau Dwr Preifat 1991.

Mae modd gweld Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat ar wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus.

Ewch i Reoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat 2010 (dolen allanol, Saesneg yn unig)