Skip to content

Bagiau siopa untro

Dolenni perthnasol

John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Mae rhai o siopau Cymru’n dosbarthu 96% yn llai o fagiau siopa untro ers i Lywodraeth Cymru gyflwyno’r tâl 5c.
Bydd John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd yn cyfarfod plant a rhieni yng Nghaerdydd i weld drosto ei hun sut y mae plant o gymunedau llai llewyrchus wedi elwa o’r tâl o 5c am fagiau siopa.
Mae Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths, wedi llongyfarch siop lyfrau adnabyddus am ddefnyddio’r elw o’r tâl am fagiau siopa i ddod â llenyddiaeth Cymru’n fyw i blant ysgol.

Ar 1 Hydref 2011, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno tâl am fagiau siopa untro.

Rydym yn dymuno annog pobl i ddefnyddio eu bagiau eu hunain i ddiogelu ein hadnoddau cyfyngedig, hyrwyddo cynaladwyedd a lleihau ar wastraff a sbwriel. Rydym yn ymroddedig i leihau'r nifer o fagiau siopa untro sy'n cael eu defnyddio yng Nghymru.

Daeth y ddeddfwriaeth newydd ar godi tâl am fagiau siopa untro i rym yng Nghymru ar 1 Hydref 2011. Erbyn hyn, nid yw bagiau siopa untro yn cael eu rhoi am ddim pan fo pobl yn prynu nwyddau.

Ewch i: Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010 (dolen allanol)

Mae Llywodraeth Cymru eisiau i’r arian a godir gael ei roi i achosion da, rhai amgylcheddol yn ddelfrydol, yma yng Nghymru.

Os ydych chi’n achos da – gallai hwn fod yn unrhyw beth o ysgol, grŵp cymunedol lleol bach i elusen genedlaethol – yna efallai y byddwch am gysylltu â busnesau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i weld a allant roi unrhyw ran o’r arian i chi.

Mae enghraifft o lythyr y mae modd i chi ei ddefnyddio ar gael ar y wefan Talu am Fagiau.

Ewch i: Rwy’n cynrychioli achos da: Gwefan Talu am fagiau Cymru (dolen allanol)

Er gwybodaeth i fanwerthwyr, rydym wedi datblygu cytundeb gwirfoddol ynghylch defnyddio’r elw net. Mae ffurflen ar-lein ar gael ichi lofnodi’r cytundeb. Mae i’w gweld ar safle’r Manwerthwyr (tudalen Adrodd yn ôl) ar wefan Talu am fagiau Cymru.

Ewch i: wefan Talu am fagiau Cymru: Adrodd yn ôl (dolen allanol)

I gael mwy o wybodaeth am ein polisïau ar fagiau siopa untro, ewch i wefan Talu am fagiau Cymru.

Ewch i: wefan Talu am fagiau Cymru (dolen allanol)