Skip to content

Tuag At Ddyfodol Diwastraff

Dolenni perthnasol

Roedd y dogfennau hyn o gymorth wrth i ni ddrafftio Tuag at Ddyfodol Diwastraff, ein strategaeth wastraff ar gyfer 2009-2050.
Canlyniadau, polisïau a chamau gweithredu i reoli gwastraff cartrefi a gesglir gan awdurdodau lleol.
Rydym wedi sicrhau mai datblygu cynaliadwy yw ein prif egwyddor drefniadol. Mae hyn yn golygu ei fod yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud a’r penderfyniadau yr ydym yn dod iddynt.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Dyma brif strategaeth gwastraff Cymru.

Gesyd allan sut yr adeiladwn ar lwyddiannau Craff am Wastraff, a disgrifia fframwaith ar gyfer effeithlonrwydd adnoddau a rheoli gwastraff rhwng yn awr a 2050.

Nid cynllun gweithredu manwl mohono. Datblygir y gweithgareddau cyflawni’n gyfres o gynlluniau sector dilynol.

Yr heriau yr ydym yn eu hwynebu

Datblygwyd Tuag At Ddyfodol Diwastraff er mwyn ein helpu ni, yng Nghymru, wynebu’r heriau canlynol:

  • Cynaliadwyedd – Dymunwn ddatblygu’n gynaliadwy trwy wella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol pobl a chymunedau.
  • Ôl troed ecolegol – Mae mesur yr ôl troed ecolegol yn dangos effaith ar yr amgylchedd. Mae rheoli ein gwastraff ni’n gyfrifol am tua 15% o ôl troed ecolegol Cymru.
  • Newid yn yr hinsawdd - Mae angen inni leihau allyriadau nwy tŷ gwydr Cymru. Mae dadelfeniad gwastraff pydradwy mewn safleoedd tirlenwi’n cynhyrchu allyriadau uniongyrchol. Cyfranna gwastraff tua 4.7% o allyriadau nwy tŷ gwydr uniongyrchol Cymru.
  • Diogeledd adnoddau - Mae angen inni sicrhau fod gennym ddigon o adnoddau, ar bris fforddiadwy, i gynnal ein heconomi a’n ffordd ni o fyw. Trwy ddefnyddio adnoddau’n effeithlonach trwy atal gwastraffu a chyfraddau ailddefnyddio ac ailgylchu uchel, gwellir diogeled materol a lleiheir dibyniaeth ar adnoddau sylfaenol o’r tu allan i’r DU.

Yr hyn y mae’n ei olygu i chi

Mae Tuag At Ddyfodol Diwastraff yn her ac yn uchelgeisiol, ond gellir ei gyflawni. Daw newid y modd y deliwn â gwastraff yng Nghymru â budd enfawr ar gyfer yr amgylchedd, yr economi a’n lles ni.

Mae gan bawb yng Nghymru ran. Amlinella’r strategaeth yr hyn y mae’n rhaid inni oll ei wneud os ydym am gyflawni amcan bod yn genedl ailgylchu uchel erbyn 2025, ac yn genedl dim gwastraff erbyn 2050.