Skip to content

Cynllun y Sector Casgliadau, Seilwaith a Marchnadoedd

Dolenni perthnasol

Canllawiau i helpu cynllunwyr ar ôl i’r Cynllun Sector Casgliadau, Seilwaith a Marchnadoedd gael ei gyhoeddi.
Daeth yr ymgynghoriad ar ganlyniadau, polisïau a chamau gweithredu ar gyfer y Sector hwn i ben ar 10 Mehefin 2011.
Dyma brif strategaeth gwastraff Cymru.
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer Cymru gynaliadwy.
Gwybodaeth ar gyfer gwastraff ac ailgylchu yng Nghymru.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae’r Cynllun Sector hwn yn ymdrin â’r dulliau o reoli’r holl wastraff yng Nghymru ac yn awgrymu lle mae angen gwella ailgylchu.

Mae’r cynllun hwn yn ceisio creu dull cynaliadwy o reoli adnoddau drwy:

  • sicrhau bod cyfaint uchel o wastraff glân yn cael ei wahanu yn y ffynhonnell (e.e. ar y stepen drws) ac yn cael ei gasglu a’i gludo i’r canolfannau ailbrosesu.
  • datblygu marchnadoedd ar gyfer y deunydd eildro (deunydd a ailgylchwyd), o fewn Cymru cyhyd ag y bo modd.

Nod y cynllun hwn yw sicrhau bod gwerth economaidd y deunydd eildro yn aros o fewn economi Cymru.

Mae’r cynllun yn nodi’r mannau lle mae angen gwella’r dulliau o gasglu gwastraff i’w ailgylchu a’r cyfleoedd ar gyfer datblygu seilwaith. Nod y cynllun hwn yw hwyluso datblygiadau yn y seilwaith drwy ddangos yr angen am fuddsoddiadau o’r fath.