Skip to content

Cyhoeddiadau

Dolenni perthnasol

Canllawiau i helpu cynllunwyr ar ôl i’r Cynllun Sector Casgliadau, Seilwaith a Marchnadoedd gael ei gyhoeddi.



Ym Mehefin 2010 darfu inni gyhoeddi “Tuag at Ddyfodol Diwastraff”. Dyma ein dogfen strategaeth gwastraff bwysicaf ni, sy’n amlinellu ein cynlluniau ni i ailgylchu 70% o’n gwastraff ni erbyn 2025, a dod yn genedl dim gwastraff, un blaned erbyn 2050.

Mae “Tuag At Ddyfodol Diwastraff” yn disodli’n rhannol ein strategaeth 2002 ni, Craff Am Wastraff. Fe’i hategir gan gynlluniau sector a fydd yn manylu’n union beth fydd angen inni’i wneud er mwyn cyrraedd y nodau hyn. Ymgynghorir ynghylch y cyntaf o’r cynlluniau hyn, y Cynllun Sector Dinesig, rhwng Mehefin yr 21 2010 a Medi’r 13 2010.  

Cyhoeddasom yr adroddiad Cyfansoddiad Gwastraff Soled Dinesig Cymru gyntaf yn 2003, ac un newydd yn 2010. Dangosant beth yn union yr ydym ni, preswylwyr Cymru, yn ei daflu ymaith, a darparant wybodaeth bwysig i’n helpu i gynllunio’r hyn y mae angen inni’i wneud er mwyn cynyddu ein cyfradd ailgylchu dinesig ni.

Gallwch chwilio amdanynt, a chyhoeddiadau eraill ar bwnc gwastraff, trwy ddefnyddio’r cyfleuster chwilio ar y dudalen hon.

Tystiolaeth sy’n sail i’r rhaglen atal gwastraff

28/03/13
Wrth fynd ati i lunio’r rhaglen atal gwastraff, defnyddiwyd amrywiaeth o dystiolaeth sydd wedi’i chyhoeddi i gefnogi’r gwaith hwnnw. Gellir gweld y dystiolaeth yma.
 

Ffigurau ailgylchi awdurdodau lleol Cymru: adroddiad pennau teithiau

22/03/13
Mae’r adroddiad hwn yn adolygiad o ben draw taith gwastraff a gasglwyd ar gyfer ei ailgylchu, yn ôl adroddiadau awdurdodau lleol Cymru rhwng Ebrill 2011 a Mawrth 2012.
 
Cynllun y sector adeiladu a dymchwel

Cynllun y sector adeiladu a dymchwel

01/03/13
Mae’r cynllun hwn yn manylu ar amcanion, polisïau a’r camau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael a gwastraff sefydliadau, cwmnïau ac unigolion yn y sector adeiladu a dymchwel yng Nghymru.
 

Y Diffiniad cyfreithiol o wastraff

14/09/12
Mae'r canllaw hwn wedi ei anelu at fusnesau a sefydliadau eraill sy'n gwneud penderfyniadau.
 

Cynllun y Sector Casgliadau, Seilwaith a Marchnadoedd

13/07/12
Mae’r Cynllun Sector hwn yn ymdrin â’r dulliau o reoli’r holl wastraff yng Nghymru ac yn awgrymu lle mae angen gwella ailgylchu.
 

Ffigurau Ailgylchu Awdurdodau Lleol Cymru: adroddiad pen draw trywyddau

30/03/12
Mae’r adroddiad hwn yn adolygiad o ben draw trywydd gwastraff a gasglwyd ar gyfer ei ailgylchu yn ôl adroddiadau awdurdodau lleol Cymru rhwng Hydref 2010 a Mawrth 2011.
 

Arweiniad Ynghylch Gweithredu’r Hierarchiaeth Gwastraff

19/01/12
Mae llawer o fusnesau a chyrff cyhoeddus Cymru’n anymwybodol o faint y mae gwastraff yn ei gostio iddynt.
 

Effaith Deunydd Gwrthodedig ar gyfraddau Ailgylchu Awdurdodau Lleol Cymru

09/12/11
Edrycha’r adroddiad hwn ar y bwlch presennol rhwng cyfraddau ailgylchu hysbysedig a gwirioneddol ledled Cymru.
 
Cwestiynau cyffredin

Cwestiynau cyffredin

18/08/11
Rydym wedi creu dogfen holi ac ateb ynghylch troi gwastraff yn ynni.
 
Yr Astudiaeth Casgliadau Deunyddiau Ailgylchadwy Sychion Drws-i-ddrws – Cymru

Yr Astudiaeth Casgliadau Deunyddiau Ailgylchadwy Sychion Drws-i-ddrws – Cymru

30/03/11
Darfu inni gomisiynu Eunomia Consulting i astudio ailgylchu ar garreg y drws yng Nghymru. Bu tri cham i’r astudiaeth hon. Y cam cyntaf fu adolygu gwaith cyhoeddedig blaenorol o’r fath yma. Yr ail gam fu edrych yn fanwl ar chwe awdurdod lleol yng Nghymru. Y trydydd cam fu ymarferiad modelu Cymru-gyf ...
 
Y Cynllun Sector Trefol

Y Cynllun Sector Trefol

10/03/11
Mae'r Cynllun Sector Trefol yn ymwneud yn unig â gwastraff a gesglir gan Awdurdodau Lleol Cymru neu gan gwmnïau rheoli gwastraff y sector preifat neu'r trydydd sector (gwirfoddol) ar ran Awdurdodau Lleol. Bydd cynlluniau sector eraill yn ymdrin â gwastraff nad yw'n cael ei gasglu yn y f ...
 
Tuag At Ddyfodol Diwastraff

Tuag At Ddyfodol Diwastraff

21/06/10
Dyma brif strategaeth gwastraff Cymru.
 

Cyfansoddiad Gwastraff Soled Dinesig Cymru

24/05/10
Darfu inni gomisiynu dau adroddiad er mwyn canfod beth sydd yn y gwastraff a gesglir o gartrefi gan awdurdodau lleol (gwastraff dinesig) Cymru. Cyhoeddwyd yr adroddiad cyntaf yn 2003, a’r ail yn 2010.