Skip to content

Rheoliadau

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae’r Rheoliadau Difrod Amgylcheddol wedi dod â gofynion Cyfarwyddeb Atebolrwydd Amgylcheddol i mewn i gyfraith wladol yng Nghymru a daethant i rym ar 6 Mai 2009.

Mae’r Rheoliadau, ynghyd â’r Memorandwm Esboniadol, y ddogfen ganllaw ac arweiniad byr ar gael ar waelod y dudalen hon.

Mae’r rheoliadau’n gosod cyfrifoldebau ar y rheini sy’n cynnal gweithgareddau sy’n bygwth creu neu yn creu difrod i’r amgylchedd.  Mae’r rheoliadau’n diffinio beth yw difrod amgylcheddol ac y mae ar y cyfan ond yn cynnwys difrod difrifol i rai rhywogaethau a chynefinoedd, ac i ddŵr a thir.

Gan fod diogelu’r amgylchedd yn gymhwysedd sydd wedi’i ddatganoli, mae rheoliadau ar wahân yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’r Alban a Gogledd Iwerddon wedi ymgynghori ar wahân ar eu rheoliadau nhw.

Cafodd y Canllawiau i’r Rheoliadau eu diweddaru ym mis Tachwedd 2009.

Ewch i: Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) 2009 (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Ewch i: Memorandwm Esboniadol (dolen allanol)