Skip to content

Strategaeth Amgylcheddol ar gyfer Cymru

Dolenni perthnasol

Y newid yn yr hinsawdd yw un o’r sialensiau pwysicaf sy’n wynebu’r byd - ac un y mae angen i ni i gyd fynd i’r afael â hi.
Gwybodaeth am y dangosyddion monitro cynnydd yn erbyn y Strategaeth Amgylcheddol.
cefn gwlad

Mae’r strategaeth hon yn egluro sut y byddwn yn mynd i’r afael â’r heriau y bydd ein hamgylchedd yn eu hwynebu dros yr 20 mlynedd nesaf.

Ein hamgylchedd hynod yw un o asedau mwyaf gwerthfawr Cymru. Mae’n bwysig iawn ynddo’i hun a hefyd o ran yr ystod o wasanaethau y mae’n ei ddarparu ar ein cyfer ni.

Er mwyn creu dyfodol cynaliadwy i Gymru mae’n rhaid i ni reoli’r pwysau yr ydym ni yn ei roi ar yr amgylchedd yn fwy effeithiol a mynd i’r afael â heriau newydd megis newid yn yr hinsawdd.

Mae’r Strategaeth Amgylcheddol yn cydnabod pwysigrwydd ein hamgylchedd ac yn esbonio sut y byddwn yn delio â’r heriau fydd yn ei wynebu dros yr 20 mlynedd nesaf.

Mae’n nodi ein gweledigaeth:

Erbyn 2026, rydym eisiau gweld yr amgylchedd arbennig sydd gennym ni yng Nghymru yn ffynnu ac yn cyfrannu at iechyd a lles economaidd a chymdeithasol holl bobl Cymru.

Yn y tudalennau hyn gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Strategaeth Amgylcheddol a sut y cafodd ei datblygu.