Skip to content

Trefi Taclus

Dolenni perthnasol

Ym mis Hydref 2009, comisiynwyd gwerthusiad canol tymor o'r fenter Trefi Taclus gennym.
Ym mis Hydref 2009, comisiynwyd gwerthusiad o Gynllun Grant Prosiectau Gwella Ansawdd yr Amgylchedd Lleol gennym.

Mae ein cynllun Trefi Taclus yn rhoi arian i awdurdodau lleol a Cadw Cymru'n Daclus er mwyn helpu pobl i wneud eu hardal yn lanach, saffach a thaclusach.

Mae’r prosiectau cymunedol sydd wedi’u hariannu trwy’r rhaglen wedi cynnwys:

  • glanhau – codi sbwriel, cael gwared o dipio anghyfreithlon, clirio gordyfiant a glanhau graffiti
  • mesurau ataliol – prynu biniau, blychau llwch symudol, arwyddion, ffensys, gatiau i lwybrau cefn, clogfeini
  • gwella mynediad – creu a chynnal a chadw llwybrau, gosod gatiau, creu mynediad i’r anabl
  • prosiectau trawsnewid – datblygu tir diffaith yn erddi cymunedol a rhandiroedd
  • prosiectau bioamrywiaeth – mae’r rhain yn gysylltiedig â phlannu, rhywogaethau sy’n cael eu hamddiffyn neu sydd mewn perygl, creu cynefinoedd a rheoli rhywogaethau ymledol
  • addysg a chodi ymwybyddiaeth – ymgyrchoedd, sgyrsiau a digwyddiadau, a gwella tiroedd ysgolion, murluniau ac ati. 

Cyllid ar gyfer 2013-14

Ar gyfer 2013-14, bydd tair haen ariannu o dan Trefi Taclus:

Cyllid awdurdod lleol

Darperir cyllid blynyddol sylfaenol i bob awdurdod lleol ar gyfer elfennau hanfodol Trefi Taclus. Ar gyfer 2013-14, bydd hyn yn £770,000 ledled Cymru (£35,000 i bob awdurdod lleol).

Bydd gan awdurdodau lleol hefyd yr hawl i wneud cais am yr elfen ariannu prosiectau, fydd yn cefnogi prosiectau penodol.  

Cyllid Cadwch Gymru’n Daclus

Bydd Cadwch Gymru’n Daclus yn derbyn cyllid o £750,000 yn ystod 2013-14. Bydd hyn yn sicrhau bod swyddogion ym mhob ardal awdurdod lleol i roi’r hawl i grwpiau lleol weithio ar brosiectau a rhannu’r cyfrifoldeb dros gadw eu hamgylchedd leol yn lân. Mae’r swyddogion yn gyswllt hanfodol â’r awdurdodau lleol. Bydd Cadwch Gymru’n Daclus hefyd yn gweithredu cynllun grantiau bychain.  

Ariannu cymunedol (y Cynllun grantiau prosiectau gwella ansawdd yr amgylchedd lleol blaenorol)

Bydd yn bosib i grwpiau a sefydliadau eraill wneud cais am gyllid cymunedol gennym. Cewch fwy o wybodaeth am hyn o dan y dolenni perthnasol ar y dde.  

Sut alla’ i gymryd rhan?

Mae rhagor o wybodaeth a manylion am sut mae cymryd rhan mewn prosiectau i wella'ch amgylchedd lleol ar gael gan eich Swyddog Trefi Taclus  lleol.
Gallwch hefyd gysylltu â'r Tîm Trefi Taclus drwy ymweld â gwefan Cadw Cymru'n Daclus.

Ewch i: Cysylltu â ni Trefi Taclus: Gwefan Cadw Cymru'n Daclus (dolen allanol)