Skip to content

Adroddiad Gwerthuso Trefi Taclus

Dolenni perthnasol

Lansiwyd prosiect i gefnogi awdurdodau lleol a chamau gweithredu gwirfoddol i wella'r amgylchedd lleol.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Dyma werthusiad canol tymor o’r fenter Trefi Taclus sy’n cynorthwyo pobl i dderbyn cyfrifoldeb am ansawdd eu hamgylchedd lleol.

Lansiwyd y fenter Trefi Taclus ym mis Ebrill 2008 a disgwylir iddi bara tan fis Mawrth 2011. Ei nod yw "cynorthwyo pobl Cymru i ysgwyddo cyfrifoldeb am ansawdd eu hamgylchedd lleol fel y gallant gyfrannu tuag at Gymru Lân, Ddiogel a Thaclus".

Mae'r fenter Trefi Taclus yn cael ei gweithredu trwy bartneriaeth rhwng:

  • Llywodraeth Cynulliad Cymru;
  • y 22 o Awdurdodau Lleol yng Nghymru; a
  • Cadwch Gymru'n Daclus.

Mae tystiolaeth yn dangos bod yr amgylchedd yn cael ei wella trwy weithgareddau Trefi Taclus a bod y gweithgareddau hynny'n sicrhau manteision ehangach o ran:

  • ymgysylltu â'r gymuned;
  • gweithio mewn partneriaeth;
  • synnwyr balchder lleol; a
  • newid mewn ymddygiad.

Gellir lawrlwytho'r Adroddiad Gwerthuso Trefi Taclus, y Crynodeb Gweithredol a dogfen Astudiaethau Achos isod.