Skip to content

Y sefyllfa ar hyn o bryd

Dolenni perthnasol

Mae'n cefnogi ein hymrwymiadau i leihau'r newid yn yr hinsawdd, helpu i ddileu tlodi tanwydd a rhoi hwb i ddatblygu economi Cymru ac adfywio'r wlad.

Mae gan Gymru asedau sylweddol ym mron pob ffynhonnell ynni carbon isel, gan helpu i gynhyrchu tua 20% o’n holl ynni yn ogystal â swyddi.

Mae gennym:

  • adnoddau gwynt sylweddol; 
  • potensial yn ynni’r llanw ac ynni’r tonnau; 
  • adnoddau da o ran ynni’r haul; 
  • cyfleoedd i gynhyrchu mwy o fiomas ac ynni dŵr;
  • safleoedd niwclear sy’n bodoli eisoes ac arbenigedd yn y diwydiant niwclear.

Oherwydd y ffyrdd, y rheilffyrdd, y porthladdoedd dwfn a’r gridiau trydan a nwy sydd gennym gallwn fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd ynni hyn.  

O ran cynhyrchu trydan, roedd Cymru’n gyfrifol am gynhyrchu 9% o drydan y Deyrnas Unedig rhwng 2004 a 2010. Nwy sy’n gyfrifol am bron 50% o’r holl drydan a gynhyrchir yng Nghymru.  

Mae cyfran y trydan a gynhyrchir o ffynonellau carbon isel, gan gynnwys niwclear, wedi aros yn sefydlog ar tua 20% o’r holl ynni a gynhyrchir

Rydym wedi gwneud buddsoddiad sylweddol o ran helpu i arbed ynni yn y cartref. Yn 2010-2011 yn unig, buddsoddwyd dros £50 miliwn yng ngham un ein rhaglen buddsoddi perfformiad ynni strategol Arbed a’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref. Gydag arian cyfatebol, roedd hyn yn golygu buddsoddiad o fwy nag £80 miliwn yng Nghymru.

Mae’r sector adnewyddadwy yn cynnal tua 13,000 o swyddi yng Nghymru. Roedd y sector carbon isel yn cynnal tua 16,000 o swyddi yn 2009/10.

Hefyd, mae gan Gymru gryn arbenigedd perthnasol yn y sector Addysg Uwch ac mae wedi sefydlu economi yn y sector adnewyddadwy a’r sector carbon isel. Yn 2009/2010, roedd y sector adnewyddadwy yn gyfrifol am £1.8 miliwn o werthiant a’r sector carbon isel am £2 biliwn.

Rydym o’r farn bod Cymru mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y newid tuag economi carbon isel. Ein nod yw adeiladu ar y sylfaen hon a chyflymu’r newid hwnnw.