Skip to content

Cyfoeth Naturiol Cymru

Dolenni perthnasol

Mae’r llythyr hwn yn amlinellu cylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2013/14.
Ym mha ffordd y bydd gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru yn wahanol i weithio gyda’r sefydliadau sy’n bodoli ar hyn o bryd?
Mae'r dogfennau a gynhyrchwyd gan y rhaglen Cymru Fyw ar gael i'w gweld yma.

Corff newydd yw Cyfoeth Naturiol Cymru fydd yn dylanwadu ar sut yr ydym ni a phobl eraill yn rheoli, yn mwynhau ac yn defnyddio adnoddau naturiol Cymru er budd y bobl, yr economi a bywyd gwyllt.

Ar 01 Ebrill 2013, daeth gwaith Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru i gyd o dan adain Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae hefyd yn gwneud peth o’r gwaith yr oeddem ni’n arfer ei wneud.

Pam creu Cyfoeth Naturiol Cymru?

Mae Cymru’n wynebu llawer o heriau. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • heriau i bobl a chymunedau Cymru, ein heconomi â’n hamgylchedd 
  • sicrhau cyflenwad ynni a thanwydd
  • darparu swyddi ac incwm
  • delio â newid yn yr hinsawdd a llifogydd 
  • gwella lles pobl a’u hiechyd.

Rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd o feddwl a gwneud pethau os ydym am fynd i’r afael â’r heriau hyn. Crëwyd Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn uno’r cyrff sy’n ymwneud â rheoli cyfoeth ein hadnoddau naturiol a’r amgylchedd i’n helpu i wneud y penderfyniadau gorau.

Cael gwybod mwy

Am ragor o wybodaeth am Cyfoeth Naturiol Cymru (dolen allanol) a’i waith ewch i’r wefan.