Skip to content

Prosiect Parthau Cadwraeth Morol Cymru

Dolenni perthnasol

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cau ar 31 Gorffennaf 2012.
Mae’r canllawiau hyn yn amlinellu’r broses a ddefnyddiwn i adnabod ac argymell creu Parthau Cadwraeth Morol Lefel Gwarchodaeth Uchel yn nyfroedd Cymru.
Mae’r cylchlythyrau hyn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Prosiect Parthau Cadwraeth Morol yng Nghymru.
Mae Grŵp Llywio'r Prosiect Parthau Cadwraeth Morol yn llywio'r prosiect ac yn sicrhau y bydd yn cyflawni'r nodau a'r amcanion.
Cangen weithredol y prosiect yw Grŵp Cynghori Technegol yn rhoi cyngor technegol ac arbenigol.
The Marine Conservation Zones Project Stakeholder and Citizen Engagement Group sits under the Wales Coastal and Maritime Partnership.

Mae'r prosiect hwn yn cynnal gwaith er mwyn nodi parthau cadwraeth morol yn nyfroedd Cymru.

Diben y parthau hyn yw gwarchod planhigion neu anifeiliaid morol, cynefinoedd neu nodweddion daearegol.

Yn dilyn yr ymgynghoriad (gweler o dan y dolenni cysylltiedig), rydym bellach yn cynnal rhagor o waith i edrych ar yr adborth a gafwyd ac i ystyried sut y dylem fwrw ati â gwaith y Parthau Cadwraeth Morol yng Nghymru.

Nid yw hyn yn golygu bod Prosiect Parthau Cadwraeth Morol Cymru wedi dod i ben.

Rydym yn ystyried ein dull o ymdrin â Pharthau Cadwraeth Morol yn unol â’r ymatebion i'r ymgynghoriad. Rydym yn gwrando ar eich syniadau ac yn ymateb iddynt cyn ceisio rhagor o safbwyntiau.

Byddwn yn edrych ar rolau'r Grŵp Cynghori Technegol a'r Grŵp Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Dinasyddion yn dilyn canlyniad argymhellion y tîm gorchwyl a gorffen.

Sut y bydd y Prosiect yn gweithio?

Rydym wedi sefydlu Grŵp Llywio a Grŵp Cynghori Technegol. Rydym hefyd wedi gofyn i Bartneriaeth Arfordir a Môr Cymru sefydlu Grŵp Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Dinasyddion.

Y Grŵp Llywio

Mae'r Grŵp Llywio yn rhoi'r cyfeiriad ar gyfer y prosiect ac yn sicrhau ei fod yn cyflawni'r nodau ac amcanion. Y Grŵp Llywio fydd yn gwneud y penderfyniadau a'r argymhellion terfynol, er enghraifft ar feini prawf a methodoleg wrth ddewis y safle terfynol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen y grŵp llywio ar y dde.

Y Grŵp Cynghori Technegol

Y Grŵp Cynghori Technegol yw braich weithredol y prosiect. Mae'n rhoi cyngor technegol ac arbenigol ar y broses.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen y grŵp cynghori technegol ar y dde.

Grŵp Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Dinasyddion

Mae'r Grŵp Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Dinasyddion yn rhan o Bartneriaeth Arfordir a Môr Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen Grŵp Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Dinasyddion ar y dde.