Skip to content

Ardaloedd gwarchod arbennig

O dan Gyfarwyddeb y CE (79/409/EEC) ynghylch Cadwraeth Adar Gwyllt, mae’r Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i gymryd y camau angenrheidiol i gadw, cynnal neu ailsefydlu amrywiaeth ac arwynebedd digonol o gynefinoedd i bob rhywogaeth o adar sy’n digwydd yn naturiol, yn y cyflwr gwyllt.

Yn ychwanegol at hyn, mae’r DU wedi ymrwymo i gymryd mesurau arbennig ar gyfer dau grŵp o adar. Y ddau grŵp hyn yw rhywogaethau penodol sy’n hawdd eu niweidio ac sydd wedi’u rhestru yn Atodiad 1 i’r Gyfarwyddeb, a rhywogaethau ymfudol sy’n digwydd yn rheolaidd. Mae’r mesurau sydd i’w cymryd yn cynnwys dosbarthu Ardaloedd Gwarchod Arbennig (SPAs), sef un o ofynion Erthygl 4 o’r Gyfarwyddeb.

Bydd SPAs yn rhan o rwydwaith Natura 2000.

Ewch i: wefan Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur: Ardaloedd Gwarchod Arbennig (cyswllt allanol, Saesneg yn unig)

Aber Afon Dyfrdwy

Ym mis Rhagfyr 2009, fe wnaethom newidiadau i Safle Ramsar ac Ardal Cadwraeth Arbennig Aber Afon Dyfrdwy. Cytunodd y Gweinidog sy’n gyfrifol am y rhannau o’r safleoedd trawsffiniol hyn sydd wedi’u lleoli yn Lloegr i’r newidiadau hyn.

Ychwanegwyd 1,185 hectar at y Safle Ramsar a’r Ardal Gadwraeth. Bellach mae’r ardal gadwraeth hon yn cynnwys y Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig gerllaw sy’n cael eu defnyddio gan yr un adar. Hefyd cafodd statws 19.3 hectar o’r safle gwreiddiol ei ddiddymu oherwydd camgymeriadau wrth fapio’r safle gwreiddiol a chan nad yw’r adar bellach yn defnyddio’r rhannau hynny o’r safle. Cafodd rhai rhywogaethau eraill eu cynnwys ymhlith y rhai sy’n cael eu gwarchod.