Skip to content

Rhywogaethau niweidiol

Dolenni perthnasol

Gall rhai planhigion mewn pyllau dŵr dagu eich planhigion brodorol, tagu ein dyfrffyrdd, gwaethygu llifogydd a niweidio pysgod. Holwch sut y gallwch chi helpu.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Gall rhai anifeiliaid a phlanhigion dŵr o dramor fod yn niweidiol i ddyfrffyrdd Prydeinig. Gallwch helpu i’w rhwystro drwy archwilio eich cyfarpar, ei olchi a’i sychu wrth adael y dŵr.

Pam fod rhywogaethau niweidiol yn broblem?

Gall ymlediad planhigion niweidiol o dramor wneud drwg i’n planhigion, ein hanifeiliaid a’n hecosystemau. Gall y rhywogaethau hyn:

  • dagu dyrffyrdd;
  • lledu afiechydon; a
  • gwneud difrod aruthrol i fywyd gwyllt a phlanhigion lleol.

Os ydych chi’n defnyddio’r dŵr, mae’n bosibl eich bod yn helpu i’w hymledu i ddŵr yn rhywle arall mewn cyfarpar, esgidiau a dillad.

Gallwch helpu i rwystro hynny rhag digwydd drwy:

  • archwilio;
  • golchi; a
  • sychu cyfarpar cyn gadael y dŵr.  

Mae poster sy'n rhoi rhagor o fanylion ar gael ar waelod y dudalen hon.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Direct Gov.

Ewch i: Atal ymlediad rhywogaethau niweidiol (dolen allanol, Saesneg yn unig)