Skip to content

Y gyfarwyddeb cynefinoedd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
alarch
Diogelu a chadw bywyd gwyllt a chynefinoedd Ewrop

Cyfarwyddeb y CE ar Gadwraeth Adar Gwyllt (Y Gyfarwyddeb Adar, 79/409/EEC) a Chyfarwyddeb y CE ar Gadwraeth Cynefinoedd Naturiol a Fflora a Ffawna Gwyllt (Y Gyfarwyddeb Cynefinoedd, 92/43/EEC0 bydd y ddwy gyfarwyddeb yn sefydlu fframwaith o ddeddfwriaeth i ddiogelu a chadw bywyd gwyllt a chynefinoedd Ewrop.

Ewch i: arweiniad ar Rywogaethau a Warchodir o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd yng nghoedwigoedd Cymru. (Cyswllt allanol - Saesneg yn unig)

Mae’r cyfarwyddebau yn rhoi gofynion Confensiwn Bonn ar Gadwraeth Rhywogaethau Ymfudol a Chonfensiwn Bern ar Gadwraeth Bywyd Gwyllt a Chynefinoedd Naturiol ar waith yng nghyfraith y Gymuned. Drwy gyfrwng Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol etc) 1994 (y Rheoliadau Cynefinoedd) cafodd gofynion y Cyfarwyddebau hyn eu trawsosod i mewn i gyfraith genedlaethol Prydain Fawr.

Canolbwynt y polisi yw creu rhwydwaith ecolegol cydlynol o fannau wedi’u diogelu ar draws yr UE – o’r enw NATURA 2000 – ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau y bernir eu bod o arwyddocâd rhyngwladol eithriadol ac felly o bwysigrwydd ar gyfer cadw bio-amrywiaeth yn yr Undeb Ewropeaidd. Diben y polisi yw cadw neu adfer y cynefinoedd a’r rhywogaethau i statws cadwraeth ffafriol o fewn eu hamrediad naturiol. Bydd y rhwydwaith yn cynnwys:

  • Ardaloedd Gwarchod Arbennig (SPAs): I gadw’r adar a restrir yn Atodiad 1 i’r Gyfarwyddeb Adar yn ogystal ag adar ymfudol
     
  • Ardaloedd Arbennig Cadwraeth (SACs): I gadw’r mathau o gynefinoedd a’r rhywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion a restrir o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd

Mae SPAs yn cael eu dosbarthu gan y Cynulliad Cenedlaethol a chaiff rhestrau eu hanfon at y Comisiwn drwy law Llywodraeth y DU. Yn achos y SACs, mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn cynnig darpar SACs ac yn anfon rhestrau at y Comisiwn. Y Comisiwn sy’n penderfynu pa safleoedd oddi ar y ddwy restr a ddylai gael eu trin fel Safleoedd o Bwysigrwydd Cymunedol (SCIs), a hynny drwy ymgynghori â’r aelod-wladwriaethau.

Pan fydd safle wedi’i fabwysiadu fel SCI, mae’n ofynnol i’r Aelod-wladwriaethau ei ddynodi yn Ardal Arbennig Cadwraeth. Mae SACs a SPAs arfaethedig yn cael eu hargymell i’r llywodraeth gan y Cydbwyllgor Gwarchod Natur (JNCC) a’r asiantaethau ar gyfer cadwraeth cefn gwlad yn y gwledydd unigol, sef Cyngor Cefn Gwlad Cymru yng Nghymru. Ymgynghorir â’r cyhoedd cyn i’r safleoedd gael eu cyflwyno i’r Comisiwn Ewropeaidd.

Ewch i: wefan Cydbwyllgor Gwarchod Natur (cyswllt allanol, Saesneg yn unig)

Ewch i: wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru (cyswllt allanol)