Skip to content

Bioamrywiaeth a Chadwraeth

Dolenni perthnasol

Rydym wedi datblygu ffordd newydd o reoli ein hamgylchedd a'n hadnoddau naturiol. Gweithiodd Rhaglen Cymru Fyw ar y ffordd newydd hon rhwng 2010 a 2013.
Corff newydd yw Cyfoeth Naturiol Cymru fydd yn dylanwadu ar sut yr ydym ni a phobl eraill yn rheoli, yn mwynhau ac yn defnyddio adnoddau naturiol Cymru er budd y bobl, yr economi a bywyd gwyllt.
Ymgynghoriad ar gynnig i gyflwyno gwaharddiad ar saethu Gwyddau Talcen-wyn er mwyn amddiffyn rhywogaeth sydd mewn perygl.
barcud coch

Ystyr bioamrywiaeth yw amrywiaeth y planhigion a’r anifeiliaid rydym yn eu rhannu gyda’r blaned a’r lleoedd y maent yn byw ynddynt.

Mae’r ecosystemau y maent yn eu creu yn rhan o’n system cynnal bywyd sy’n darparu’n holl fwyd a’n meddyginiaethau ac yn sicrhau bod gennym aer glân, dŵr glân a phridd ffrwythlon.

2010 oedd Blwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth ac mae gwledydd ledled y byd yn gweithredu i godi ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth a phwysigrwydd ei warchod.

Yr hyn gallwch chi’i wneud

Dyma 5 syniad da i chi warchod bioamrwyiaeth Cymru:

  • Gwirfoddoli gyda grŵp amgylcheddol lleol fel BTCV (Ymddiriedolaeth Gwirfoddolwyr Cadwraeth Prydain), Groundwork, Cadw Cymru’n Daclus neu RSPB (Royal Society for the Protection of Birds);
  • Tyfu’ch blodau neu’ch llysiau’ch hun;
  • Ymuno â grŵp bywyd gwyllt fel Butterfly Conservation, eich Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt lleol neu grŵp ystlumod lleol;
  • Mynd ar grwydr i fwynhau cefn gwlad a chodi sbwriel pan fyddwch yn ei weld;
  • Dysgu mwy am y natur o’ch amgylch drwy fynd i’ch llyfrgell, parc neu warchodfa natur leol.

Ewch i: wefan Butterfly Conservation (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Ewch i: wefan Ymddiriedolaeth Natur Cymru (dolen allanol)

Ewch i: wefan Bat Conservation Trust (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Gallwch gefnogi gwarchod bioamrywiaeth drwy fynd i wefan Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru.

Ewch i: wefan Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru: Addewid i natur (dolen allanol)

Yr hyn rydym ni’n ei wneud

Rydym yn gweithio’n agos gyda Phartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru (PBC). Mae’r PBC yn cynnwys unigolion a sefydliadau allweddol o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Mae PBC yn cynnig arweiniad ac arbenigedd ar flaenoriaethau ar gyfer gweithredu ar fioamrywiaeth yng Nghymru a hyrwyddo a monitro’r ffordd y caiff y camau gweithredu hyn eu cyflawni.

Ewch i: wefan Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru (dolen allanol)

Rydym wrthi’n datblygu Fframwaith Amgylchedd Naturiol o'r enw Cymru Fyw. Bydd y fframwaith yn canolbwyntio mwy ar reoli’r tir a’r môr yn gynaliadwy yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i gymryd rhan, ewch i dudalennau Cymru Fyw drwy glicio ar y dolenni perthnasol sydd ar ochr dde’r dudalen hon.