Skip to content

Yr amgylchedd - cadwraeth a rheoli

Dolenni perthnasol

Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn gweithredu fel Adran Goedwigaeth Llywodraeth Cymru.
Rydym wedi sicrhau mai datblygu cynaliadwy yw ein prif egwyddor drefniadol. Mae hyn yn golygu ei fod yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud a’r penderfyniadau yr ydym yn dod iddynt.
coedwig
Rydym yn cydnabod bod ein hamgylchedd naturiol yn bwysig iawn i’n heconomi a’n lles.

Rydym am ddiogelu a gwella amgylchedd Cymru er mwyn iddo allu parhau i roi aer, dŵr, tirweddau a bioamrywiaeth o’r radd flaenaf inni. Mae angen i bob un ohonom ailfeddwl sut yr ydym yn ystyried, yn gwarchod ac yn rheoli amgylchedd ein gwlad.

Rheoli’r amgylchedd mewn ffordd newydd

Cymru Fyw yw ein fframwaith newydd ar gyfer rheoli ein hamgylchedd. Mae’n golygu gwneud iechyd ac ansawdd ein hamgylchedd naturiol yn flaenoriaeth i bawb ac yn elfen bwysig ym mhob penderfyniad.

Mae ein hamgylchedd naturiol a’r amgylchedd sydd wedi’i wneud gan ddyn yn eithriadol o gyfoethog ac amrywiol. O ofalu amdanyn nhw, daw cyfleoedd ardderchog i gynnal mentrau cymdeithasol ac i dwristiaeth a hamddena.

Gwella mynediad at gefn gwlad

Yng Nghymru, mae rhyw 33,000km o lwybrau cyhoeddus. Yn y gorffennol, roedd pobl leol yn eu defnyddio i fynd o le i le, ond bellach mae cerddwyr hamdden yn eu defnyddio hefyd. Mae Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn diogelu’r hawliau hyn ac rydym am weld pobl yn gwneud y gorau o’u cefn gwlad.

Rheoli’n tir coedwigaeth

Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn gweithredu fel Adran Goedwigaeth, gan ofalu am goedwigoedd Llywodraeth Cymru. Mae’n dilyn Coetiroedd i Gymru, ein strategaeth ar gyfer gofalu am ein coedwigoedd.

Diogelu ein moroedd a’n pysgod

Y ni sy’n gyfrifol am sicrhau bod:

  • iechyd a lles pysgod yn cael eu monitro;
  • deddfwriaeth pysgodfeydd y tir a’r môr yn cael ei rhoi ar waith yn iawn;
  • buddiannau pysgota Cymru yn cael eu diogelu a’u hyrwyddo.

Rydym yn gweithio i gefnogi ac annog pysgota masnachol a hamdden yng Nghymru. Rydym yn gwneud hynny trwy asiantaethau’r Llywodraeth.

Arferion ffermio cynaliadwy

Mae Cymru’n wynebu sialensiau a chyfleoedd newydd.  O ganlyniad, mae angen cynllun rheoli tir cynaliadwy ar ffermwyr iddyn nhw allu ymateb i ofynion newydd.

Mae disgwyl i Glastir, y cynllun rheoli tir ar gyfer y degawd i ddod, orfod ymateb i’r sialensiau a nodwyd yn Agenda Archwilio Iechyd y Polisi Amaethyddol Cyffredin.  Mae’r sialensiau hyn yn cynnwys newid yr hinsawdd, dal carbon, rheoli dŵr a bioamrywiaeth. Dyma fydd sylfaen cynlluniau rheoli tir ar draws Ewrop o 2014.

Gweithredu i ddiogelu a gwella bioamrywiaeth

Gyda chyrff cyhoeddus a phreifat eraill, rydym yn aelodau o Bartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru. Mae’r bartneriaeth yn rhoi cyngor inni ar sut i gynnal a gwella bioamrywiaeth.

Mae hyn yn cynnwys mesur effaith rhywogaethau goresgynnol a thramor, ac os oes modd, datblygu cynlluniau i’w ffrwyno.