Skip to content

Gweithredu rhyngwladol ac yn y DU ar y newid yn yr hinsawdd

Dolenni perthnasol

Bydd y Gweinidog yn tynnu sylw at y modd y mae Cymru yn mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd drwy bwysleisio dull strategol Cymru a’i chynnydd.
Gweithredu Tiriogaethol ar y Newid yn yr Hinsawdd
Pobl ifanc yn codi glôb wedi’i chwyddo

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn rhyddhau 80% yn llai o nwyon tŷ gwydr yn erbyn 2050.

Yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) sy’n llywio’r gwaith ar y newid yn yr hinsawdd ar lefel y Deyrnas Unedig.

Prif flaenoriaethau DECC yw: 

  • arbed ynni a diogelu defnyddwyr bregus;
  • darparu ynni o ffynonellau diogel;
  • symbylu ymdrechion uchelgeisiol i arafu’r newid yn yr hinsawdd, yn y wlad hon a thramor; a
  • rheoli’r waddol ynni yn gyfrifol a chost-effeithiol.

Yn sgil datganoli, mae’r camau pellach sy’n cael eu cymryd ar y newid yn yr hinsawdd yn amrywio o wlad i wlad.

Ewch i: Yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Ewch i: Llywodraeth yr Alban a Newid Hinsawdd (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Ewch i: Llywodraeth Gogledd Iwerddon a Newid Hinsawdd (dolen allanol, Saesneg yn unig)