Skip to content

Tuag at ddyfodol 2°C: senario lleihau allyriadau i Gymru

Dolenni perthnasol

Mae gennym darged i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 3% y flwyddyn yn y meysydd cymhwysedd sydd wedi’u datganoli.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae’r gwaith ymchwil hwn yn edrych ar oblygiadau lleihau allyriadau yn flynyddol y tu hwnt i’r 3% sydd eisoes wedi’i addunedu, ac yn cael ei lywio gan drafodaeth academaidd eang ar yr angen i gyfyngu’r cynnydd yn y tymheredd hyd at uchafswm o 2˚C i osgoi newid peryglus i’r hinsawdd.

Roedd prif amcanion y prosiect yn cynnwys:

  • cael gwell dealltwriaeth o oblygiadau senarios gwahanol ar gyfer lleihau allyriadau i bobl, cymunedau a sefydliadau yng Nghymru;
  • nodi, ar gyfer sectorau allweddol, effaith ymarferol cyffredinol y senarios gwahanol hyn, a math a chwmpas yr ymyriadau polisi, y rheoleiddio a’r cymelliannau a’r cosbau ariannol fyddai eu hangen.