Skip to content

Cymru: Changing Climate, Challenging Choices - astudiaeth gwmpasu o effeithiau newid yn yr hinsawdd yng Nghymru (2000)

Dolenni perthnasol

Yn y Datganiad Polisi hwn, rydym yn amlinellu'r her o hinsawdd sy'n newid a'r ymateb Llywodraeth Cymru.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae'r astudiaeth hon yn cynnwys newidiadau tebygol yn yr hinsawdd, barn arbenigwyr am y canlyniadau a chasgliadau am gyfweliadau â rhanddeiliaid.

Mae'r adroddiad wedi'i rannu'n bump:

Rhan 1

Cyflwyniad

Rhan 2

Mae Rhan 2 yn cyflwyno gwybodaeth am bedwar senario sy'n ymwneud â'r newid yn yr hinsawdd ar gyfer y 2020au, y 2050au a'r 2080au gan nodi pen draw newidiadau o ran tymheredd, glawiad a lefel y môr. Defnyddir gwahanol senarios gan nad ydym yn dal yn deall yn llawn wyddoniaeth yr hinsawdd ac nad ydym chwaith yn gwybod i ba raddau y bydd gwledydd yn lleihau eu hallyriadau nwy ty gwydr.

Bydd y newid yn yr hinsawdd yn altro:

  • glawiad;
  • tymheredd;
  • lefel y môr;
  • gwyntoedd.

Felly bydd yn effeithio ar amgylchedd naturiol ac adeiledig Cymru, ei harfordiroedd a iechyd ei phobl, a gallai gynyddu'r achosion o lifogydd.

Rhan 3

Mae Rhan 3 yn disgrifio'r effeithiau hyn ar sail adolygiadau o ddeunydd a chyfweliadau â rhanddeiliaid yng Nghymru a thu hwnt. Mae amaethyddiaeth, coedwigaeth a thwristiaeth awyr agored yn bwysig i economi Cymru. Mae Cymru yn allforio llawer o ddwr i Loegr.

Rhan 4

Mae Rhan 4 yn rhoi adroddiad ar faterion sy'n bwysig i randdeiliaid yn y sectorau hyn ac mewn sectorau eraill. Ymgynghorir â chymysgedd o bobl ar lenyddiaeth, materion economaidd a rhanddeiliaid.

Rhan 5

Mae Rhan 5 yn mynd i'r afael â sut dylid cyfathrebu ynghylch y newid yn yr hinsawdd mewn ffordd sy'n ennyn diddordeb pobl ond sydd hefyd yn awdurdodol. Rydym yn gwneud argymhellion am sut dylid symud y gwaith ar y newid yn yr hinsawdd yn ei flaen. Mae'r rhain yn ymddangos ar ddiwedd pob rhan.