Skip to content

Y sector preswyl

Dolenni perthnasol

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r heriau sy’n ein hwynebu wrth inni geisio diwallu gofynion tai Cymru a’r blaenoriaethau a’r camau gweithredu y byddwn yn eu cymryd.
Mae’r cynllun hwn yn canolbwyntio ar yr hyn ry’n ni’n ei wneud. Bydd yn hyrwyddo lles amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol pobl Cymru.
Mae'n cefnogi ein hymrwymiadau i leihau'r newid yn yr hinsawdd, helpu i ddileu tlodi tanwydd a rhoi hwb i ddatblygu economi Cymru ac adfywio'r wlad.
Pen cawod

Bydd camau i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o’r sector preswyl yn dod â buddion eraill yn eu sgil.

Er enghraifft, gall deiliaid tai gynyddu gwerth eu cartrefi, torri eu biliau ynni ac efallai hyd yn oed greu incwm o gynhyrchu ynni adnewyddadwy.

Mae’r sector preswyl yn gyfrifol am oddeutu un rhan o bump o’r allyriadau a gynhwysir yn ein targed o 3%. Er 1998, mae’r allyriadau wedi gostwng yn y sector hwn (ac eithrio’r defnydd o drydan).

Camau allweddol

Mae ein camau i leihau allyriadau yn y sector preswyl yn cynnwys:

  • Annog gosod mesurau effeithlonrwydd ynni cost-effeithiol ym mhob cartref a mabwysiadu dull gweithredu ‘tŷ cyfan’;
  • Targedu buddsoddiad at y rheini sy’n agored i dlodi tanwydd, a chefnogi cynhyrchu ynni ar raddfa gymunedol; a 
  • Sicrhau bod penderfyniadau cynllunio defnydd tir yn cael eu llywio gan yr angen i leihau allyriadau.

Ein dull ni o fynd ati i leihau allyriadau

Mae’r Strategaeth Dai Genedlaethol i Gymru, Gwella Bywydau a Chymunedau: Cartrefi yng Nghymru yn mynegi ein gweledigaeth ni ar gyfer tai yng Nghymru. Mae’n tynnu sylw at yr angen i leihau’n sylweddol ôl troed ecolegol tai yng Nghymru ac i sicrhau bod mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd yn cael ei gynnwys mewn dwy ffordd:

  • Gwella perfformiad ynni cartrefi sy’n bod eisoes; a
  • Gwella perfformiad ynni wrth adeiladu tai newydd.

Mae’r Cynllun Cenedlaethol Effeithlonrwydd ac Arbed Ynni’n cynnig camau ymarferol a di-oed i helpu pob deiliad tŷ ledled Cymru i leihau’r defnydd o ynni. Mae’n amlinellu dulliau i helpu’r rheini sydd mewn mwyaf o angen i dorri eu biliau tanwydd a gwneud y defnydd gorau o’u hincwm. Mae hefyd yn ceisio helpu cymunedau i weithio gyda’i gilydd i weithredu, gan y gall gweithredu ar raddfa gymunedol wneud arbed neu gynhyrchu ynni yn fwy cost-effeithiol.

Caiff y diben polisi hwn ei gyflawni trwy’r cynllun Nyth, sydd â’r nod o ddarparu gwasanaeth cydgysylltiedig sy’n dod â chyngor a chymorth i’r rhai sydd mewn mwyaf o angen.

Ewch i: Nest (dolen allanol)