Skip to content

Lleihau allyriadau Cymru

Dolenni perthnasol

Cafodd y Strategaeth ei gyhoeddi ym mis Hydref 2010.
Mae gennym darged i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 3% y flwyddyn yn y meysydd cymhwysedd sydd wedi’u datganoli.
Mae’r Strategaeth yn annog pawb i weithredu ac i newid yr hyn a wnânt er mwyn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
Mae'r siarter hon yn galluogi sefydliadau i ddangos eu hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy.
Y polisïau a’r gwaith y byddwn yn ei wneud i’n helpu i greu economi gynaliadwy, carbon isel ar gyfer Cymru.
Person ifanc yn defnyddio’r bws

Hoffem weld Cymru’n lleihau ei hallyriadau nwyon tŷ gwydr 3% bob blwyddyn.

Mae Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd yn cadarnhau lle byddwn ni’n canolbwyntio’n gweithredu a sut y bydd camau a gymerir gan bobl, cymunedau a sefydliadau ledled Cymru’n ein helpu ni i gyrraedd y targed.

Mae ein Cynllun Cyflawni Lleihau Allyriadau’n datgan y polisïau a’r rhaglenni a fydd yn ein helpu ni i gyrraedd y targed o 3%. Mae’r Cynllun yn pennu’r camau rydym yn eu cymryd, ac mae’r gwaith eisoes ar y gweill. Mae hefyd yn amlygu polisïau allweddol y DU a’r UE a chyfraniadau ehangach.

Mae’r camau gweithredu i leihau allyriadau Cymru’n cynnwys:

  • annog newid mewn ymddygiad tuag at ffordd o fyw sy’n defnyddio llai o garbon;
  • annog sefydliadau yng Nghymru i arwyddo’n Siarter Datblygu Cynaliadwy;
  • lleihau’r defnydd o ynni ac adnoddau;
  • cynyddu effeithlonrwydd ynni ac adnoddau;
  • annog cynhyrchu ynni carbon isel ar raddfa fach;
  • cefnogi buddsoddi mewn trafnidiaeth sy’n annog symud tuag at fathau carbon isel o drafnidiaeth;
  • ceisio dylanwadu ar benderfyniadau’r DU lle maent yn berthnasol i leihau allyriadau yng Nghymru.