Skip to content

Cydffederasiwn Diwydiant Prydain: David Proctor

Mae Dave ar hyn o bryd yn gweithio yn Dow Corning ac mae wedi gweithio  mewn rheoli safleoedd a rheoli prosiectau.

Er 2001 mae wedi gwneud amrywiaeth o swyddi yn ymwneud ag ynni. Yn ei swydd gyfredol, mae Dave yn gyfrifol am weithgareddau datblygu ynni ar gyfer safleoedd Dow Corning yn Ewrop ac Asia. Mae hyn yn cynnwys: 

  • datblygu a gweithredu strategaethau dod o hyd i ynni tymor hir (gan gynnwys prosiectau ynni adnewyddadwy); 
  • trafod contractau ynni mawr; 
  • cefnogi rhaglenni effeithlonrwydd ynni ar safle; a 
  • gweithio gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol ar ynni a pholisïau nwyon tŷ gwydr.

Mae Dave yn cynrychioli Cydffederasiwn Diwydiant Prydain Cymru ar Gomisiwn Cymru ar y Newidd yn yr Hinsawdd ac yn darparu gwybodaeth i'r Comisiwn ar ran busnesau mwy yng Nghymru. Yn ei swydd, mae'n gweithio'n agos iawn gyda thimau polisi Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru ac yn Llundain.