Skip to content

Yr Ymddiriedolaeth Garbon: Mike Batt

Fel Rheolwr Ymddiriedolaeth Carbon Cymru, mae gan Mike dros 30 mlynedd o brofiad yn y sector ynni.  Mae'n arwain tîm Ymddiriedolaeth Carbon Cymru o ran darparu atebion masnachol ymarferol er mwyn helpu sefydliadau ledled Cymru i leihau eu hallyriadau carbon.

Maent hefyd yn helpu entrepreneuriaid i ddatblygu'r technolegau a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn yr ymdrech i leihau allyriadau carbon yn y dyfodol.  

Cyn ymuno ag Ymddiriedolaeth Carbon Cymru yn 2004, bu Mike yn Rheolwr Datblygu Busnes ar gyfer Ynni Gwyrdd United Utilities yng Nghymru. Cyn hyn, bu mewn swyddi datblygu busnes a rheoli prosiectau allweddol ar gyfer prosiectau gwerth miliynau o bunnoedd yn y DU, yn Affrica ac yn Asia.