Skip to content

Gwybodaeth am y newid hinsawdd

Pobl ifanc gyda llythrennau carbon yn sillafu’r gair carbon ar eu traed

Y newid yn yr hinsawdd yw’r newid sy’n digwydd yn hinsawdd y byd oherwydd y newid yn lefel y nwyon yn yr atmosffer.

Wrth i wres yr haul daro wyneb y ddaear, mae’r ddaear yn sugno peth ohono ac mae peth ohono’n cael ei daflu yn ôl i’r gofod. Mae peth o hwnnw’n cael ei adlewyrchu yn ôl i’r ddaear gan y nwyon yn yr atmosffer. Mae rhai nwyon yn helpu i gadw gwres o fewn yr atmosffer yn yr un ffordd ag y mae gwydr yn helpu i gadw gwres mewn tŷ gwydr – a dyna pam maen nhw’n cael eu galw’n nwyon tŷ gwydr. Mae dŵr ar ffurf anwedd yn y cymylau hefyd yn taflu gwres yn ôl i’r ddaear.

Mae’r hinsawdd rydym yn ei fwynhau nawr yn ganlyniad i lefel y nwyon tŷ gwydr yn yr atmosffer. Mae’r cydbwysedd rhwng y nwyon hyn wedi newid yn naturiol lawer gwaith. Ond ers y 1900au mae’r cydbwysedd wedi newid oherwydd y nwyon tŷ gwydr rydym wedi’u rhyddhau wrth i’n cymdeithas ddatblygu.

Rydym yn rhyddhau nwyon tŷ gwydr trwy losgi tanwydd ffosil – er enghraifft trwy losgi glo mewn pwerdy i gynhyrchu trydan neu drwy losgi petrol neu diesel yn ein ceir.

Cewch ragor o wybodaeth am y newid yn yr hinsawdd ar dudalennau’r Swyddfa Dywydd.

Ewch i: Y Swyddfa Dywydd (dolen allanol, yn Saesneg yn unig)