Skip to content

Anthracs - Holi ac Ateb

Fersiwn 7 - Gorffennaf 2007

Cattle,Gwartheg

Faint o wartheg yng Nghymru y cafwyd bod anthracs arnynt yn ystod 2006?
Dwy fuwch. Cadarnhawyd bod yr anthracs ar fuwch 7 oed a fu farw ar 18 Ebrill ac ar fuwch a drigodd ar 21 Ebrill. Nid oedd anthracs ar ddwy fuwch a fu farw ar 16 Ebrill. Bu farw dwy fuwch arall yn sydyn (ar 6 ac 11 Ebrill) ond ni chafodd profion eu cynnal arnynt am na chafodd yr awdurdodau wybod amdanynt.

Faint o amser mae sborau anthracs yn gallu byw yn y pridd?
Mae sborau anthracs yn gallu byw yn y pridd am flynyddoedd lawer. Os ydy glaw trwm neu lifogydd neu rywbeth tebyg yn aflonyddu'r pridd, mae'r sborau yn gallu codi i'r wyneb lle gall anifeiliaid pori eu bwyta. Mae bwydydd anifeiliaid neu wrtaith o wledydd tramor yn gallu lledaenu anthracs hefyd. Mae'r olaf yn hynod o anarferol erbyn hyn.

A oes modd mewnforio anthracs mewn bwydydd anifeiliaid neu wrtaith?
Oes.  Fodd bynnag, mae mesurau rheoli mewnforion yn golygu bod hyn bellach yn annhebygol iawn o ddigwydd. Yn y gorffennol, roedd bwydydd anifeiliaid yn cael eu heintio wrth gael eu cario mewn llongau oedd wedi bod yn cario esgyrn a chrwyn o rannau eraill o'r byd lle roedd anthracs yn fwy cyffredin.

Roedd yn cael ei fewnforio hefyd mewn blawd cig ac esgyrn. Yn hanesyddol, roedd blawd cig ac esgyrn yn cael ei roi mewn bwyd anifeiliaid ond ers BSE, mae hyn wedi'i wahardd. Hefyd, roedd sborau'n cael eu golchi oddi ar grwyn mewn tanerdai a'u gwasgaru yn y llif dwr. Gallai hynny arwain at halogi tir pori, yn enwedig ar orlifdir, ac ambell waith, gallai anifeiliaid pori fyddai'n pori yno ddal y clefyd a marw'n sydyn. Fodd bynnag, clefyd prin yw anthracs bellach ac nid yw'n effeithio ar nifer fawr o dda byw. Yn 2002 y cafwyd yr achos diwethaf ym Mhrydain.

Os nad oes tystiolaeth o anthracs yn sgîl cymryd samplau amgylcheddol, sut allwn ni ddweud sut y daliodd yr anifeiliaid y clefyd?
Nid yw yn bosib bob amser profi unwaith ac am byth union ffynhonnell yr haint. Serch hynny, mae yn bosib dangos bod yr haint wedi dod o un man penodol ar y fferm, yn sgîl archwiliad trylwyr o'r achos, ynghyd â gwybodaeth am feioleg anthracs a phrofiad o achosion eraill.

Sut allwn ni atal anifeiliaid eraill ar y fferm rhag dal y clefyd?
Does dim modd cael gwared yn llwyr ar y perygl y byddant yn dal anthracs, ond mae'n bosib rheoli'r perygl hwnnw a'i ostwng yn sylweddol. Yn ffordd allweddol o wneud hyn fydd rheoli'r modd y mae'r tir sydd â'r perygl uchaf o gario anthracs yn cael ei ddefnyddio.

A allai sborau anthracs fod wedi effeithio ar famaliaid eraill, ac allai'r clefyd ledaenu fel hynny?
Mae'n debyg bod pob anifail gwaed cynnes yn gallu dal anthracs, er bod rhai rhywogaethau yn llawer llai tebygol o'i ddal nag eraill. Mae profiad o achosion eraill o anthracs ym Mhrydain a thu hwnt wedi dangos yn gyffredinol nad yw hwn yn ddull arferol i'r clefyd ledaenu.

A yw anifeiliad eraill ar y fferm mewn perygl?
Ydynt. Mae pob anifail y gallai fod wedi dod i gysylliad â ffynhonnell yr haint mewn perygl. Rydym yn  gofyn i'r ffermwr gadw golwg fanwl ar y gwartheg am symtomau'r haint.

Beth am eu brechu?
Nid oes brechlyn masnachol ar gael ym Mhrydain i anifeiliaid sydd mewn perygl o ddod i gysylltiad ag anthracs. Mae amgylchiadau'n bod lle gallai defnyddio'r brechlyn fod yn ddefnyddiol i gyfyngu ar y colledion. Byddai'n rhaid gwneud cais amdano a rhaid i'r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol ei gymeradwyo. Ffermwyr fyddai'n gorfod ysgwyddo cost y brechiad.

A oes perygl i ffermydd cymdogion?
Mae yn dibynnu ar yr amgylchiadau ond credir bod y perygl i ffermydd eraill yn fach iawn.

Faint o garcasau sydd wedi'u dinistrio?
Mae'r carcasau yn cael eu llosgi ar y safle yn unol â Gorchymyn Anthracs 1991. Mae'r lludw yr oedd ar ôl yn cael ei losgi

Beth all ffermwyr ei wneud i gadw golwg am anthracs?
Mae ffermwyr yn gorfod rhoi gwybod i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol trwy'r Archwilydd Milfeddygol Lleol, sef eu milfeddyg preifat fel arfer, am unrhyw stoc sy'n marw'n sydyn ac yn annisgwyl.

Sut mae profion am anthracs yn cael eu cynnal?
Yn y lle cyntaf, mae'r Archwilydd Milfeddygol Lleol yn casglu gwaed ac weithiau samplau o feinwe. Os oes posibilrwydd y gallai anthracs fod ar yr anifail marw, mae'r samplau'n cael eu hanfon at yr Asiantaeth Labordai Milfeddygol (VLA) yn Weybridge.

A oes iawndal ar gael ar gyfer anifeiliaid y cadarnhawyd i anthracs eu lladd? Nac oes

Beth yw'r perygl i'r cyhoedd?
Mae'r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn cael ei hystyried yn ofalus iawn ac mae'r  oblygiadau yn cael eu mesur.  Bydd y perygl i gerddwyr y llwybrau cyhoeddus a'u hanifeiliaid anwes ar ôl codi'r cyfyngiadau yn fach iawn.  Fel arfer, rhaid wrth gysylltiad uniongyrchol ag anifeiliaid heintiedig er mwyn i'r salwch daro pobl ac mae'n annhebygol iawn y daw unrhyw un sy'n cerdded y llwybrau i gysylltiad â'r haint. Mae hyn yn oed llai fyth o bosibilrwydd y bydd pobl yn dal yr haint trwy anadlu neu fwyta'r sborau. Dylech bob tro gadw eich ci dan reolaeth a pheidio â gadael iddo grwydro wrth ddefnyddio llwybrau cyhoeddus ar ffermdir.

A oes perygl i iechyd y cyhoedd wrth losgi'r anifeiliaid?
Nac oes

Beth sy'n achosi anthracs?
Haint yw anthracs sy'n cael ei achosi gan facteria o'r enw Bacillus anthracis ac mae i'w gael ledled y byd. Anifeiliaid pori sydd fwyaf mewn perygl o'i ddal. Milhaint yw anthracs h.y. mae'n gallu cael ei drosglwyddo o anifeiliaid i bobl. Mae'r bacteriwm yn gallu byw fel sborau sy'n gallu goroesi yn yr amgylchedd h.y. yn y pridd am flynyddoedd lawer.

Beth yw anthracs dynol ?
Mewn pobl, mae tri math o anthracs:

  • anthracs y croen
  • anthracs y coluddion 
  • anthracs anadlol

Mae anthracs y croen yn esgor ar friwiau ar y croen a dylid defnyddio cyffuriau gwrthficrobiol i'w drin. I gael eich heintio, rhaid i'r haint ddod i gysylltiad â chroen wedi'i anafu.

Mae anthracs y coluddion yn cael ei ddal trwy fwyta bwyd heintiedig ac yn esgor ar glefyd difrifol sy'n gallu lladd.

Mae anthracs anadlol yn brin iawn ac yn cael ei ddal trwy anadlu sborau, yn enwedig mewn rhai prosesau diwydiannol. Ym 1974 y cafwyd yr achos diwethaf o anthracs anadlol yng Nghymru a Lloegr

Sut mae pobl yn dal anthracs?
Mae anthracs yn beth prin mewn pobl bellach. Enw Saesneg arall ar y clefyd oedd y 'wool-sorters disease' ac roedd yn berygl pob dydd i rai gweithwyr, gan gynnwys gweithwyr mewn lladd-dai a thanerdai oedd yn trin crwyn, blew, esgyrn a chynhyrchion esgyrn. Mae brechlyn ar gael i'r rheini sydd mewn perygl o'i ddal yn eu gwaith ond nid yw fel arfer yn cael ei argymell ar gyfer y cyhoedd.

Gellwch ddal y clefyd trwy ddod i gysylltiad â sborau anthracs, naill ai ar y croen (anthracs y croen), trwy eu bwyta (anthracs y coluddion) neu drwy eu hanadlu (anthracs anadlol). Anaml iawn y mae anthracs yn cael ei drosglwyddo o berson i berson.

A yw anthracs yn cael ei fonitro?
Mae hyd at 6,000 o arolygwyr milfeddygol lleol wedi bod yn monitro anthracs am lawer o flynyeddoedd.

A yw'n glefyd hysbysadwy?
Ydy. Mae pob achos yn cael ei ddadansoddi, fel arfer yn y filfeddygfa leol.  Os oes posibilrwydd bod yna achos o anthracs, mae'r samplau'n cael eu hanfon at yr Asiantaeth Labordai Milfeddygol.