Skip to content

Twymyn Affricanaidd y moch

Dolenni perthnasol

Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
Mochyn
Mae Twymyn Affricanaidd y Moch (ASF) yn feirws sy’n heintio moch cyffredin a gwyllt (baeddod gwyllt).



Mae Twymyn Affricanaidd y Moch (ASF) yn feirws sy’n heintio moch cyffredin a gwyllt (baeddod gwyllt). Gall y feirws gael ei drosglwyddo gan drogod (ticks) ac fe all achosi salwch difrifol.

Arwyddion y clefyd

Mae arwyddion Clefyd Affricanaidd y Moch (ASF) a Chlefyd Cyffredin y Moch (CSF) bron yr un peth ac mae ffurf ddifrifol iawn i’w chael a ffurf fwynach. Dim ond drwy brawf labordy y gellir cael diagnosis pendant achos efallai na fydd baeddod dafadennog, moch y llwyni neu faeddod anferthol y goedwig yn dangos unrhyw arwyddion clinigol o’r clefyd. Gall yr anifeiliaid hyn drosglwyddo’r feirws i boblogaethau eraill a’u heintio.

Gall trogod drosglwyddo’r clefyd hefyd. Y gwahaniaethau mwyaf rhwng ASF a CSF yw’r cyfnod magu. Mae feirws yr ASF yn fwy tebygol o ddyblygu ac aros yn y corff yn hir ac nid oes brechiad i’w reoli.

Mae cyfnod magu feirws clefyd y moch yn amrywio o bum i ddeng niwrnod fel arfer. Yn ei ffurf ddifrifol, bydd gwres uchel ar y mochyn (40.5 gradd C neu 105 gradd F) bydd golwg ddiflas arno ac ni fydd chwant bwyd arno. Mae’r arwyddion eraill yn amrywio. Efallai gwelir rhai o’r canlynol neu bob un ohonynt:

  • Rhwymedd ac wedyn dolur rhydd
  •  Llygaid llawn
  • Peswch
  • Blotiau ar y croen
  •  Erthylu, genedigaethau marw a thoreidiau gwan
  • Gwendid yn y coesau ôl
  • Arwyddion nerfol mewn moch newydd eu geni gan gynnwys ffitiau a chryndod.

Trosglwyddo’r clefyd

Yn aml mae’r clefyd yn ymledu wrth symud moch sydd wedi’u heintio. Gall moch sy’n ymddangos yn iach fod â’r clefyd ac fe all moch sydd wedi gwella barhau i drosglwyddo’r feirws am gyfnodau hir iawn.

Gall y feirws fyw y tu allan i’r mochyn am gyfnod hir, felly gall symud cerbydau, dillad, esgidiau a chyfarpar sydd wedi’u heintio ledaenu’r clefyd.

Y Gyfraith

Gorchymyn Clefyd Affricanaidd y Moch (Cymru) 2003 (dolen allanol)

Twymyn Affricanaidd y moch: Strategaeth rheoli'r clefyd ym Mhrydain Fawr

12/07/11
Mae'r dogfen yma yn amlinellu sut i reoli achosion o dwymyn Affricanaidd y moch ym Mhrydain Fawr.