Skip to content

Grŵp Llywio'r Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid

Dolenni perthnasol

Mae Grŵp Llywio Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru wedi cytuno ar ei flaenoriaethau o ran clefydau anifeiliaid ar gyfer Cymru yn 2012/13.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.

Cafodd y Grwp Llywio'r Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid ei sefydlu ym mis Tachwedd 2004 i gadw golwg ar y ffordd y mae’r Strategaeth yn cael ei rhoi ar waith yng Nghymru.

Mae gan y Grŵp 17 o aelodau sy’n cynrychioli’r diwydiant a barn y diwydiant yng Nghymru. Mae’n cynghori ac yn helpu Llywodraeth Cymru ar amrywiaeth o bynciau sy’n effeithio ar y Strategaeth yng Nghymru.

Hyd at 2011, roedd y Strategaeth Brydeinig yn cael ei rhoi ar waith yng Nghymru trwy Gynllun Gweithredu blynyddol. Yn 2011, mae’r Grŵp wedi datblygu ffordd newydd o gyflawni canlyniadau strategol y Strategaeth Brydeinig yng Nghymru a sut i flaenoriaethu gwaith y Grŵp Llywio yn y dyfodol.

Mae’r Grŵp wedi cytuno ar y prif glefydau anstatudol i roi blaenoriaeth iddynt gan eu rhannu’n 3 chategori – Eidion, Godro a Defaid. Y prif flaenoriaethau fydd:

  • Eidion – Dolur rhydd feirysol y gwartheg (BVD), Clefyd Johne a Llyngyr yr Afu/Iau
  • Godro – Clefyd Johne, Cloffni, Mastitis (Garged) a BVD a Llyngyr yr Af
  • Defaid – Y Clafr, Llyngyr yr Afu, Cloffni ac Wyn Marw.

Mae cyfrifoldeb statudol ar Lywodraeth Cymru o hyd am rai clefydau ac am roi arweiniad pan fydd clefydau egsotig hysbysadwy’n torri allan. Bydd dal gofyn i’r diwydiant a’r llywodraeth gydweithio â’i gilydd ar faterion trawsffiniol fel bioddiogelwch.

Mae’r Grŵp wedi cwrdd nifer o weithiau. Mae cofnodion y cyfarfodydd hyn i’w gweld ar y ddewislen ar y chwith. Fe welwch yno hefyd fanylion llawn y cyrff sy’n cael eu cynrychioli, a’r Amodau a’r Telerau.