Skip to content

Iechyd a lles anifeiliaid

Dolenni perthnasol

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Wybodaeth am swyddfeydd Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a'r Labordai Milfeddygol yng Nghymru - ble maen nhw a sut i gysulltu ân nhw.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
fferm

Mae Llywodraeth yn gyfrifol am reoli a, lle bo’n bosibl, am ddileu clefydau anifeiliaid yng Nghymru i wella iechyd a lles ein hanifeiliaid.

----------------------------------------------------------

Gwybodaeth Diweddaraf

Canllaw ynglyn â llacio rheolau i ffermwyr yn ystod cyfnod o eira a thywydd drwg eithriadol

----------------------------------------------------------

Mae iechyd a lles anifeiliaid yn bwysig i bawb, nid dim ond perchnogion da byw neu’r llywodraeth. Mae sgil-effeithiau achosion o afiechyd a’r mesurau i’w rheoli fod yn helaeth ac yn gostus i iechyd y cyhoedd, yr economi a’r amgylchedd. Mae’r ffordd rydyn ni’n trin anifeiliaid yn ffordd bwysig o adlewyrchu gwerthoedd ein cymdeithas. Mae hyn yn golygu bod gan bawb ran i’w chwarae o ran gwella safon genedlaethol iechyd a lles anifeiliaid.

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau gwelliannau parhaol yn y sector amaethyddiaeth drwy:

  • ddiogelu a gwella ansawdd stoc Cymru
  • rheoli a dileu clefydau

Bydd hyn yn rhoi dyfodol diogel i ffermwyr yng Nghymru. Byddwn hefyd yn cymryd camau i atal clefydau rhag cael eu ffordd i mewn i’r gadwyn fwyd:

  • fonitro symudiadau anifeiliaid
  • cadw gwyliadwriaeth filfeddygol
  • sicrhau nad yw anifeiliaid na chig o ardaloedd heintus yn cael eu mewnforio i Gymru

Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am iechyd a lles da byw ac anifeiliaid anwes, gan gannwys wybodaeth ar gyfer TB mewn gwartheg a Feirws Schmallenberg.