Skip to content

Sgiliau Byd Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Logo Sgiliau Byd Cymru

Cyflwynwyd cystadleuaeth sgiliau Cymru i gynorthwyo ac i godi proffil cystadlaethau sgiliau yng Nghymru. Fe wneir hyn trwy hybu rhagoriaeth ymysg hyfforddeion a phrentisiaid medrus ar draws Cymru. Bydd cystadleuaeth sgiliau Cymru yn cynorthwyo eich mudiad i redeg cystadlaethau a helpu i alinio'r safonau â'r rhai a ddisgwylir gan Sgiliau Byd DG.

Cystadlaethau Sgiliau

Worldskills, a gynhelir bob dwy flynedd, yw'r gystadleuaeth sgiliau fwyaf yn y byd. Mae'n caniatáu i'r cystadleuwyr gystadlu ar y safonau uchaf oll mewn dros 45 o gategorïau sgiliau sy'n amrywio o wneud dodrefn i ddylunio gwefannau.

Mae'n brofiad dysgu gwerthfawr ac unigryw i bob un o'r bobl ifanc sy'n cymryd rhan. Mae llawer o'r cystadleuwyr yn mynd yn eu blaenau i weithredu fel llysgenhadon ar ran eu sgiliau ac i hybu rhagoriaeth mewn addysg a hyfforddiant galwedigaethol yn eu gwledydd eu hunain.

Mae cymryd rhan ar y lefel uchaf mewn un o gystadlaethau Worldskills yn helpu'r cystadleuwyr i feithrin sgiliau a magu hyder sy'n arwain at well cyfleoedd i ddatblygu gyrfa a  sgiliau personol. I'r cyflogwyr hynny sy'n cyflogi cystadleuydd, gwelir bod eu cefnogaeth i'r gystadleuaeth wedi talu ar ei chanfed drwy ddenu mwy o ymgeiswyr a chanddynt sgiliau uwch i'r busnes.

Cynhelir y Gystadleuaeth Worldskills ryngwladol nesaf y gallwch gymryd rhan ynddi yn Llundain, y DU, yn 2011. Flwyddyn cyn y Gemau Olympaidd yn 2012, bydd Cystadleuaeth WorldSkills Llundain 2011, a gynhelir 5 - 8 Hydref, yn gyfle dihafal i hoelio sylw'r byd ar Lundain a'r DU a hybu rhagoriaeth ym maes chwaraeon a sgiliau galwedigaethol fel ei gilydd.

Mae lefel uchel o sgiliau yn hanfodol i lwyddiant economi Cymru ac maent yn rhan hanfodol o strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i helpu busnesau i dyfu, datblygu a chystadlu gan wneud elw.

Mae mwy i gystadlu na dod o hyd i'r 'gorau'. Mae cymryd rhan a chaniatáu i bobl wella eu sgiliau a dysgu oddi wrth bobl eraill yr un mor bwysig. Mae'r cystadlaethau wedi'u cynllunio i brofi unigolion yn erbyn y safonau gwaith, yn awr ac yn y dyfodol.

O safbwynt yr unigolyn ei hun, gall y boddhad o elwa ar y profiad fod yn fawr. O safbwynt y cyflogwyr, bydd cael gweithwyr hyfedrus yn cyfrannu at lwyddiant ac elw'r cwmni.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan World Skills or wefan London 2011 (Saesneg yn unig).