Skip to content

Sgiliau Pobl Llwyddiant: Cynllun Carlam

Dolenni perthnasol

Mynd ati o ddifrif i hyfforddi staff.
I fusnesau sydd am weld eu pobl yn rhagori.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rydych chi’n rhedeg business llwyddiannus, proffidiol. Rydych chi’n gwneud yn dda. Ond, mae arnoch chi eisiau mwy. Y broblem yw eich bod mor brysur yn delio â materion bob dydd, nad ydych chi byth yn cael cyfle i feddwl am yfory. Sut allwn ni helpu?

Dewch â rhywun y gallwch ymddiried ynddo i mewn

Fel rheolwr, byddwch wedi gweld y manteision y gall hyfforddiant eu rhoi i’ch busnes. Yn bwysicach na dim mae angen i chi weithio gyda rhywun a all eich helpu chi i gyflwyno hyfforddiant effeithiol sy’n bodloni’ch anghenion chi.

Ond oni fydd hynny’n ddrud?

Na fydd, dim ond i chi siarad â ni yn gyntaf. Oeddech chi’n gwybod y gallwn ni gynnig ymgynghorydd profiadol – am ddim – i ofalu am lawer o’r baich gwaith ac i gynnig cefnogaeth barhaus i sicrhau bod yr hyfforddiant yn cael ei gyflwyno’n llwyddiannus?

A pheidiwch ag anghofio bod cymhorthdal ar gyfer llawer o’r hyfforddiant – a’i fod yn rhad ac am ddim mewn ambell achos – felly, bydd yr ymgynghorydd yn gallu’ch helpu chi i ganfod pa gefnogaeth sydd ar gael i chi.

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud ymholiadau, cysylltwch â ni ar
Ffôn: 0845 60 661 60
E-bost: businessskillshotline@wales.gsi.gov.uk