Skip to content

Cynllun Gweithredu Diswyddiadau (React) II

Logo ReAct.
Rhaglen ariannu yw'r Cynllun Gweithredu ar Ddiswyddiadau II (ReAct II) ar gyfer hyfforddiant a ddarperir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i bobl sy'n byw yng Nghymru ac sy'n  wynebu'r posibilrwydd o golli'u swyddi. Gall y cynllun hefyd helpu Cyflogwyr sy'n lleihau maint eu busnesau neu sy'n recriwtio staff.

ReAct II i Unigolion

Pwy sy'n gymwys?

Mae cymorth o dan becyn cymorth ReAct II ar gael i’r unigolion canlynol: 

  • unigolion sydd wedi cael eu gwneud yn ddi-waith yn ystod y chwe mis diwethaf oherwydd diswyddiad, unigolion sydd ar hyn o bryd yn ddi-waith ac sydd heb fod mewn swydd barhaol am chwe wythnos neu fwy ers cael eu diswyddo; neu
  • unigolion sydd o dan rybudd diswyddo; ac
  • unigolion sydd heb ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant sy’n cael ei ariannu gan sefydliad cyhoeddus ers cael eu diswyddo, gan gynnwys y gyfres o raglenni dysgu seiliedig ar waith.

Beth sydd gan ReAct II i'w gynnig?

Mae tair elfen i gynllun ReAct II:

  • Cymorth gyda Recriwtio a Hyfforddiant
  • Grant Dewisol - Hyfforddiant Galwedigaethol
  • Grant Dewisol - Amrywiol.

Mae cymorth ar gael i ymgeiswyr cymwys fel eu bod yn gallu cynyddu eu sgiliau a goresgyn unrhyw rwystrau sy’n eu hatal rhag dysgu neu ddychwelyd i’r gwaith.  Er mwyn sicrhau bod yr hyfforddiant hwn yn rhoi’r cyfle gorau posibl iddynt ddod o hyd i swydd newydd, bydd Gyrfa Cymru yn asesu anghenion hyfforddiant pob un o’r ymgeiswyr.  Hefyd, bydd Gyrfa Cymru yn rhoi cyngor i unigolion ar gyrsiau hyfforddi addas sy’n cael eu cynnal mewn lleoliad sy’n gyfleus iddynt.  Mae’r cymorth ariannol canlynol ar gael i gynorthwyo gyda’r rhan hon o’r pecyn cymorth:

  • telir yr holl gostau hyfforddiant sy’n gysylltiedig â dysgu sgiliau newydd (hyd at gyfanswm o £1,500);
  • mae modd cael cymorth i dalu am offer arbennig sy’n angenrheidiol er mwyn ymgymryd â’r hyfforddiant;
  • mae modd cael cymorth i dalu costau teithio i gyrsiau hyfforddiant;
  • telir costau llety dros nos, lle bo hynny’n briodol;
  • cynigir cymorth i dalu costau gofal plant i bobl sy’n mynychu hyfforddiant (yn amodol ar gyfyngiadau a thelerau).

ReAct II i Gyflogwyr

Recriwtio?

Mae dau becyn ar gael i chi os ydych chi’n rhoi swydd i rywun sydd wedi’i ddiswyddo:

  • Mae Cefnogaeth Recriwtio i’r Cyflogwr, yn talu cyflogwyr sy’n penodi unigolion gafodd eu diswyddo yn y chwe mis diwethaf. Mae’r pecyn hwn yn cynnig hyd at £3,000 sy’n cael ei dalu mewn pedwar rhandaliad fel cyfraniad at gostau cyflog.
  • Mae Cefnogaeth Hyfforddi’r Cyflogwr yn gronfa ddewisol ar wahân sy’n cynnig hyd at £1,000 i gyflogwr ei ddefnyddio i dalu costau hyfforddiant sy’n berthnasol i swydd y sawl y mae wedi’i benodi.
    Caiff y cyflogwr ddewis a yw am ymgeisio am Cefnogaeth gyda Recriwtio ar ei ben ei hun neu am Gefnogaeth gyda Recriwtio a Hyfforddi. Nid yw’n bosibl i chi gael Cefnogaeth Hyfforddi oni bai eich bod yn cael Cefnogaeth Recriwtio hefyd.

Pwy sy’n gymwys i gael cymorth?

Mae’r Gefnogaeth Recriwtio a Hyfforddi i Gyflogwyr ar gael i’ch busnes os yw’r unigolyn yr ydych chi am ei benodi naill ai wedi cael rhybudd diswyddo ffurfiol neu’n ddi-waith am ei fod wedi’i ddiswyddo yn y chwe mis diwethaf. Rhaid i’r unigolyn fod yn byw yng Nghymru ar yr adeg pan ddaeth yn gymwys am y tro cyntaf ar gyfer cynllun ReAct II.

Bydd unigolion sy’n gweithio 25 awr yr wythnos neu fwy yn gymwys i gael cymhorthdal cyflog llawn, a bydd y rheini sy’n cael eu cyflogi am 16 – 24 awr wythnos yn gymwys i gael cymhorthdal cyflog sy’n cyfateb i 50% o’r gyfradd amser llawn. Nid yw’r rheini sy’n cael eu cyflogi am lai nag 16 o oriau’r wythnos yn gymwys i gael cymhorthdal cyflog.

Mae Gefnogaeth Recriwtio a Hyfforddi i Gyflogwyr ar gael os:

  • yw eich busnes yn ehangu ac mae’r swydd yn newydd; neu 
  • rydych yn gallu cyfiawnhau penodi rhywun i swydd wag; ac
  • nad yw un o gyfarwyddwyr eich busnes hefyd yn gyfarwyddwr ar y cwmni a ddiswyddodd y person yr ydych chi am ei benodi.
  • Mae’r swydd am o leiaf 16 awr yr wythnos. 
  • Disgwylir i’r swydd bara am o leiaf 12 mis. 
  • Nid yw’r swydd yn cael cymorth ariannol o unrhyw gronfa gyhoeddus na Chronfa Ewropeaidd arall; ac 
  • nid yw eich busnes wedi cyrraedd y trothwy ‘de minimis’ o dan y rheolau Cymorth Gwladwriaethol. Pwysig: Byddwn yn gwrthod cais ar gyfer unigolion a allai fod yn gymwys fel arall, os yw’r unigolyn hwnnw:
  • Wedi dechrau gweithio i chi cyn i’ch cais o dan gynllun ReAct II gael ei gymeradwyo; 
  • Wedi cael ei gyflogi mewn swydd o unrhyw fath yn ddi-dor am chwe wythnos neu fwy yn y chwe mis cyn gwneud y cais; 
  • Wedi mynychu unrhyw hyfforddiant a ariennir gan arian cyhoeddus, gan gynnwys rhaglenni dysgu seiliedig ar waith, ers iddo gael ei ddiswyddo.

Mwy o wybodaeth

Mae modd ichi gael rhagor o wybodaeth am ReAct II un ai gan dîm ReAct yn Abertawe, trwy gysylltu â’ch swyddfa Gyrfa Cymru leol neu drwy ffonio Dysgu a Cyngor Gwaith ar 0800 100 900.