Skip to content

Arwain a Rheoli

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae sgiliau arwain a rheoli da yn fwy na hanfodol i’ch busnes chi.

Maen nhw hefyd yn gallu cael effaith sylweddol ar economi Cymru yn gyffredinol. Drwy hyfforddiant a datblygu priodol gallwch fynd i’r afael â’r heriau busnes sydd o’ch blaen a chreu gweithlu gwell.

Rhaglen newydd yw Gwella Sgiliau Arwain a Rheoli a all eich helpu i wella sgiliau’ch rheolwyr a’ch gweithlu.

Mae’r rhaglen yn cynnwys:

  • Cymorth gan Ganolfan Ragoriaeth: Mae’r ganolfan yn cynnig gwasanaethau cyfeirio a gwybodaeth i’ch helpu i ddadansoddi a deall eich anghenion hyfforddiant o ran arwain a rheoli.
  • Gweithdai Arwain a Rheoli: Mae’r gweithdai mynediad agored hyn, sy’n cael eu darparu ledled Cymru gan rwydwaith o ddarparwyr, yn canolbwyntio ar ystod o bynciau arwain a rheoli. Mae cymhorthdal o 70% i fusnesau bach a chanolig a chymhorthdal o 50% i gwmnïau mawr.
  • Datblygu’r Gweithlu - Dewisol: Gan weithio gydag un o’n cynghorwyr Datblygu Adnoddau Dynol (gwasanaeth am ddim), mae cyllid dewisol o 50% (hyd at derfynau i gytuno arnynt) ar gael ar gyfer hyfforddiant arwain a rheoli, neu gallwch gael cyllid yn uniongyrchol os yw hynny’n well gennych.
  • Mynediad i’r Gronfa Arweinyddiaeth Sector: Mae cyllid wedi’i ddarparu i’r Cynghorau Sgiliau Sector i’w helpu i ddatblygu atebion ar gyfer sectorau penodol.
  • Rhaglen Reoli Ddiagnostig: I’ch helpu i gael diagnosis o’ch materion arwain a rheoli.
  • Hyfforddiant Sgiliau Mentora a Hyfforddi: Rhaglen beilot i hyfforddi mentoriaid a hyfforddwyr i’ch helpu chi a’ch staff i ennill sgiliau a chymwysterau perthnasol.

Ffoniwch ni ar 0845 6066160 – gallwn ni ateb cwestiynau ynghylch pa gymorth sydd ar gael i chi.

Neu anfonwch e-bost i businessskillshotline@wales.gsi.gov.uk

Gallwch hefyd gael gwybodaeth am gyrsiau ac adnoddau yn Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru wefan.

I gael rhagor o wybodaeth am y Gronfa Arwain Sectorau, cysylltwch â’r Cyngor Sgiliau Sector perthnasol – gwefan Cyngor Sgiliau Sector.

Ariennir y rhaglen Gwella Sgiliau Arwain a Rheoli gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop.