Skip to content

Cymorth i bobl ifanc ddod yn hunangyflogedig

Mae'r Fwrsariaeth i Entrepreneuriaid Ifanc yn rhan o Gronfa Twf Swyddi Cymru Llywodraeth Cymru ac mae wedi'i datblygu i gefnogi syniadau am fusnesau newydd ymhlith pobl ifanc.

Telir y Fwrsariaeth hon o £6,000, a gaiff ei dyfarnu yn ôl disgresiwn, dros gyfnod o bedwar mis. Grant trethadwy ar ffurf taliad gros gan Lywodraeth Cymru yw'r Fwrsariaeth hon, a rhaid ei nodi fel 'incwm' ar gyfrif y busnes.

Cymhwysedd

  • Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod rhwng 18 a 24 oed ar adeg gwneud cais am y dyfarniad ac ni ddylent fod mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant.
  • Bwriedir y Fwrsariaeth i Entrepreneuriaid Ifanc ar gyfer busnesau sydd heb ddechrau masnachu ac a fydd yn dechrau eu busnes o fewn deufis i'r dyfarniad gael ei gymeradwyo.
  • Caiff yr ymgeisydd ei gofrestru a chaiff gyngor busnes a sesiynau mentora un i un gan ddarparwr cymorth busnes cymeradwy.
  • Mae angen i geisiadau gael eu hategu gan gynllun busnes a dangos bod y busnes yn gynaliadwy.

Gwneud cais

Os ydych eisoes yn cael cymorth gan un o Ddarparwyr Dechrau Busnes Llywodraeth Cymru, siaradwch â'ch cynghorydd.

Fel arall, ffoniwch 03000 6 03000 am wybodaeth.

Noder: Gwneir y dyfarniad ar sail disgresiwn a gall meini prawf cymeradwyo eraill fod yn gymwys.